Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 8 Mai 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. Wrth gwrs, mae llawer ohonom yma yn gobeithio na fydd hon yn sefyllfa y bydd yn rhaid inni ei hwynebu, ond o gofio y gallai fod, mae gennym rai misoedd ychwanegol, fel y dywedasoch yn eich ymateb i Huw Irranca-Davies, i geisio paratoi ar gyfer y senario waethaf sy'n bosibl. Wrth drafod â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, tybed a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol fanteisio ar y cyfle hwn i edrych yn fanylach ar faterion yn ymwneud â'r gweithlu a all godi yng Nghymru, yn enwedig yn y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau gofal os yw pobl naill ai'n methu aros yma neu'n teimlo nad oes croeso iddynt fel dinasyddion yr UE, ac wrth gwrs, yn y dyfodol, efallai na fydd gwasanaethau gofal, yn arbennig, yn gallu recriwtio mor effeithiol o'r UE ag y gallent yn y gorffennol. Beth bynnag yw ein barn am y cyfnod o oedi, mae'n rhoi rhywfaint o amser inni o leiaf i ystyried lle mae'r bylchau hynny'n debygol o fod ac i ddechrau rhoi rhai camau ar waith i gynorthwyo cyrff iechyd a gofal i geisio cau'r bylchau hynny os bydd angen.