Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 8 Mai 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Bydd y rhan fwyaf ohonom yma heddiw yn ymwybodol fod e-chwaraeon yn creu lefel debyg o ddiddordeb a chyffro â Chwpan y Byd. Hyd yma, fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio'n llawn ar y manteision economaidd aruthrol sydd i'w hennill o hyrwyddo'r diwydiant hwn drwy hwyluso cydweithrediad â rhanddeiliaid.
Mae e-chwaraeon a'r diwydiant gemau rhithwir yn ffynhonnell adloniant sy'n arbennig o boblogaidd, wrth gwrs, ymhlith y boblogaeth wrywaidd. Yn gynyddol, mae'r diwydiant hwn wedi gwneud lle canolog i'w hun ar y rhyngrwyd ac yn y cyfryngau. Nawr, o gofio datblygiad technolegol aruthrol ein cymdeithas, a'n rhyng-gysylltiadau gwell â'n rhanbarthau, ein pobl a'n syniadau, mae poblogrwydd ac argaeledd gemau ar-lein wedi cynyddu.
Yn ôl NewZoo, roedd cynulleidfa e-chwaraeon y DU yn 2016 yn 6.5 miliwn, a disgwylir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu gyda mynediad gwell at lwyfannau ffrydio megis Sky Sports, YouTube a Twitch—nid wyf erioed wedi clywed am yr un diwethaf. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod gan y diwydiant hwn botensial difrifol i gyflymu ein twf economaidd, creu swyddi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac arfogi'r rheini sy'n ymwneud â'r diwydiant hwn ac yn ymddiddori ynddo â'r sgiliau busnes, digidol a chreadigol a fydd yn rhoi Cymru ar y map o ran llwyddiant gemau ac e-chwaraeon, fel yr arweinydd presennol yn y maes, De Corea.
Yn ôl casgliadau adolygiad Bazalgette, crëwyd 300,000 o swyddi rhwng 2011 a 2015, ac erbyn 2030, rhagwelir y bydd 1 filiwn o swyddi newydd yn cael eu creu o fewn y diwydiant hwn. Yn 2016 yn unig, amcangyfrifodd Cymdeithas E-chwaraeon Prydain fod e-chwaraeon wedi cyfrannu £18.4 miliwn i economi'r DU yn 2016. O ystyried bod chwaraewyr gemau wedi gwario dros $5.6 biliwn yn y wlad sydd ar y brig, De Corea, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod potensial llawn y farchnad gyffrous hon sy'n tyfu'n gyflym drwy ddechrau paratoi ar gyfer cydweithrediad â sefydliadau creadigol, busnesau gemau a'n prifysgolion ein hunain.
Yn wir, gan mai ein cenhedlaeth ifanc sy'n hybu'r ffyniant technolegol hwn a llwyddiant e-chwaraeon, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y manteision a ddaw yn sgil ehangu'r cydweithrediad â phrifysgolion Cymru, i ddatblygu partneriaethau â chwmnïau technolegol byd-eang, gan sicrhau buddsoddiad pellach a denu'r graddedigion mwyaf cymwys i Gymru. Mae prifysgolion Lloegr, megis Caerefrog a swydd Stafford, eisoes wedi datblygu cyrsiau a modiwlau e-chwaraeon a fydd yn arfogi pobl ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y maes hwn â'r sgiliau a'r wybodaeth y byddant eu hangen yn y dyfodol.
At hynny, mae'n werth cydnabod bod Prifysgol De Cymru a Gemau Tiny Rebel yn ne Cymru wedi cydweithio â chwmnïau digidol a chreadigol megis Aardman Animations, ac maent wedi sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith ymchwil i greu gêm rithwir newydd. Mae angen i'r math hwn o fuddsoddiad barhau ac ymestyn i gynnwys y gwaith o hyrwyddo digwyddiadau e-chwaraeon a all ddenu miloedd o wylwyr a datblygu seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd. Yn ddiweddar, yn Ne Corea, mynychodd 40,000 o bobl bencampwriaeth League of Legends y byd, a gellir cysylltu'r llwyddiant hwn â buddsoddiad Llywodraeth Corea ym maes telathrebu a'r rhyngrwyd. Felly rwy'n annog y Llywodraeth i ystyried y pwyntiau a wneuthum, ynghyd â'r pwyntiau a wnaeth fy nghyd-Aelod, David Melding, ac i ddechrau cydweithio â phartneriaid technolegol a chreadigol i roi'r cyfle gorau i Gymru, a'r Cymry, fanteisio ar y datblygiad byd-eang hwn. Diolch.