Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 8 Mai 2019.
Dŷch chi yn hollol iawn, ac roeddwn i'n mynd i ddod ymlaen at y pwynt yna, fod hwn yn gorfod rŵan ddod at graidd yr hyn dŷn ni'n ei gynnig i bobl o ran cyfleon—mewn addysg yn gyntaf, a chyfleon mewn busnes. Beth sydd angen i Gymru ei ddangos, a pham ei bod hi mor bwysig bod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen i wneud gwaith ymchwil penodol yn y maes yma, fel mae'r mesur yn ei ofyn amdano, ydy ein bod ni'n chwilio am ffordd i fod yn flaengar, ein bod ni'n dweud bod Cymru'n eiddgar i fod ar y blaen. Ac, er mwyn gallu gwneud hynny, mae'n rhaid edrych ar beth sy'n digwydd allan yna, ac ystyried yn ofalus beth allwn ni ei gyflawni yng Nghymru, o osod uchelgais.
Mi fues i yn yr Alban yn ddiweddar—yn gwneud darn o waith ar geir trydan, fel mae'n digwydd, ac mi fyddaf i'n cyhoeddi adroddiad ar hynny yr wythnos nesaf. Mi fues i yn ninas Dundee. Newyddiaduraeth oedd y diwydiant mawr—jute, jam and journalism oedd y tair elfen i economi Dundee yn draddodiadol. Erbyn hyn, mae'r diwydiant gemau wrth galon y cyffro sydd yna yn Dundee ar hyn o bryd, a Rockstar North, un o'r cwmnïau mawr rhyngwladol yna ym myd y gemau, yn gyflogwr mawr yn lleol, ac yn arwydd i ni o'r hyn y gellir ei gyflawni o wneud y buddsoddiad iawn yn y lle iawn. Yn digwydd bod, mae Dundee hefyd yn flaengar iawn ym maes cerbydau trydan—dyna pam yr oeddwn i yno. A dwi'n meddwl mai beth sydd gennym ni yn fanna ydy arwydd, lle mae gennych chi gymuned, neu dref, neu wlad fel Cymru, yn penderfynu, 'Mae hyn yn rhywbeth dŷn ni'n benderfynol o'i wneud', yna mae'n bosib anelu tuag at y pwynt hwnnw.
Felly, dwi'n croesawu'r cynnig. Byddai, mi fyddai hi'n drueni pe bai cynnig y Llywodraeth yn cael ei basio. Er enghraifft, mae o'n nodi, onid ydy, y
'buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid...sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol ffyniannus yng Nghymru.'
Dŷn ni'n sôn yn fan hyn am sector penodol iawn o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru y mae angen buddsoddiad penodol iawn iddo fo. Felly, byddai, mi fyddai hi yn drueni pe bai hwnnw yn cael ei basio, ond gan bod y Ceidwadwyr fel cynigwyr y cynnig gwreiddiol yn awgrymu ac yn argymell y dylem ni gefnogi y cynnig beth bynnag, os y pasith hwnnw, mi wnawn ninnau yr un modd.