5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: E-chwaraeon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:41, 8 Mai 2019

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud yn gyntaf gymaint o bleser ydy hi i mi fod ar fy nhraed yn wythnosol yn y Siambr yma yn trafod materion yn ymwneud â'r diwydiannau creadigol? A dwi'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am ddod â'r pwnc yma gerbron, ac mae'n ymddangos ein bod ni, yn y ddadl yma yn barod, wedi canfod unoliaeth annisgwyl a phleserus iawn yn y Cynulliad Cenedlaethol ar draws y pleidiau, o'r diwedd. A dwi'n gweld bod y Prif Weinidog yn gwenu, ar ôl y dathliad mawr ddoe, fod gyda ni sail i unoliaeth mewn chwaraeon electronig. Dwi'n meddwl bod y term 'chwaraeon electronig' yn esbonio'n gliriach efallai yn y Gymraeg nag ydy e-sports yn Saesneg beth yw natur y chwaraeon yma, sef mai chwarae mewn defnyddiau digidol ac electronig a olygir, a hynny yn aml, ac fel arfer, yn digwydd ar y we.

Ond dwi'n ddiolchgar iawn i bob Aelod sydd wedi cyfrannu, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael trafodaeth sydd yn sail i ni ddatblygu ein polisi fel Llywodraeth ymhellach. Fe wnes i gyfeirio'n fyr yn y datganiad yr wythnos diwethaf ar y diwydiannau creadigol at y sector yma. Ond dwi'n derbyn nad ydy galw sector lle mae yna dros 450 o filiynau o bobl yn chwarae drwy'r byd—allwn ni ddim galw hwnna yn sector sydd yn sector gemau yn unig. Mae o'n sector ymarferiad digidol ac electronig ac mae'r cyfle i Gymru i gyfrannu i hwnna yn fater sydd o ddiddordeb arbennig i Lywodraeth Cymru.

Dwi'n derbyn bod adroddiad Bazalgette, y cyfeirir ato fo yn y cynnig, wedi rhoi cysylltiad rhwng y diwydiant chwaraeon electronig a'r posibiliadau datblygu ar yr agenda yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n bwysig dweud ein bod ni yng Nghymru yn barod yn cyfrannu yn y cyfeiriad yma. Mae cyfraniad Mochi Mode, o Brifysgol De Cymru, yn 2017 fel busnes newydd a'r llwyddiant a gawson nhw. Mae cyfraniad Prifysgol Glyndŵr yn y gogledd yn cael ei chydnabod yn 2018 yn ganolfan y flwyddyn mewn hwb yn y maes yma yn gyfraniad sydd yn bwysig i ni fel Llywodraeth i fanteisio arno fo.

Mae'r meysydd twf yma yn datblygu potensial deallusol ac rydyn ni'n cytuno â hynny. A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn nad ydyn ni'n gosod dadl ffug rhwng y datblygiad deallusol wrth chwaraeon electronig yn erbyn y syniad o ddatblygiad corfforol drwy chwaraeon corfforol, oherwydd mae'r ddau beth yr un mor angenrheidiol i bobl ifanc, buaswn i'n tybio, ag i bobl o bob oed yn eu datblygiad fel dinasyddion ac fel personau. Yn yr ystyr yna, dŷn ni yn croesawu'r ymchwiliadau mae adran diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud yn y maes yma, ac mi fyddwn ni yn dilyn yn ofalus yr hyn y maen nhw yn ei gyhoeddi ac yn ceisio manteisio arno fo wrth ddatblygu yr hyn rŷm ni'n ei wneud yma yng Nghymru.

Mae'n bwysig imi ddweud—a dyma oedd pwynt ein gwelliant ni fel Llywodraeth—fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth weithredol gadarn i dwf y sector yma. Yn y daith fasnach lwyddiannus i'r gynhadledd datblygu gemau yn San Francisco, roedd yna wyth cwmni gemau o Gymru yn arddangos eu cynnyrch. Bu cyfle i gwrdd â buddsoddwyr a mynd i ddigwyddiadau rhyngweithiol. Mae'r rhagolygon yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw yn dangos bod yna fusnesau o Gymru wedi sicrhau dros £300,000 o waith newydd ers y gynhadledd yna, gyda chytundebau gwerth £1 miliwn arall yn cael eu trafod ar yr un pryd.

A derbyn bod y sector yma yn newydd a bod yna heriau yn cael eu hwynebu, mae'n bwysig datgan ein bod ni eisoes yn edrych ar sawl menter ar draws y Llywodraeth sydd yn ymwneud â hyn. Mae'r uned digwyddiadau mawr, sydd o fewn yr adran rydw i yn ei rhannu â'r Gweinidog, yn trafod yn rhyngweithiol gyda phartneriaid yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, gan gynnwys perchnogion hawliau a threfnwyr chwaraeon electronig, i achub ar gyfleoedd i ddenu digwyddiadau e-chwaraeon sylweddol i Gymru. Mae hynny'n cynnwys trafod gyda'r Gymdeithas Adloniant Rhyngweithiol Rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig, Cynghrair Gemau Ewrop ac ESL, sef perchnogion sawl eiddo mawr rhyngwladol yn y sector yma. Mae Chwaraeon Cymru hefyd wedi trafod â Chymdeithas E-chwaraeon Prydain.

Mae'n ymddangos i mi, felly, bod gyda ni sail i gytundeb ar y pwnc yma heddiw, a dwi'n croesawu hynny'n fawr iawn. Wedi derbyn hynny, rydym ni yn gweld bod yna her inni fel Llywodraeth i fod yn fwy rhyngweithiol, ac i gydnabod bod technoleg chwaraeon electronig yn datblygu ffurfiau newydd sydd hefyd yn galluogi pobl i gynyddu eu gweithgarwch cymdeithasol. Dydyn ni ddim yn gweld chwaraeon electronig fel rhywbeth sydd, o angenrheidrwydd, yn cau pobl i mewn uwchben eu sgriniau, ond bod yna gyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn cymdeithas estynedig fyd-eang. Felly, does yna ddim gwrthdrawiad, fel yr awgrymais yn gynharach, rhwng iechyd corfforol a diddordeb digidol a diddordeb mewn chwaraeon electronig.

Felly, i grynhoi, gan nad wyf i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad difrifol yn y ddadl hon, am unwaith—ac mae hynny'n rhoi pleser mawr i mi, fel un o'r Aelodau Cynulliad a oedd yn meddwl ar ôl datganoli y byddai bron pob plaid yng Nghymru yn gallu cydweithio â'i gilydd—efallai ein bod ni wedi cael rhagweliad o ddyfodol electronig llawen yn nemocratiaeth Cymru heddiw. Diolch yn fawr i chi.