6. Dadl Plaid Cymru: Byrddau Iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:45, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, hoffwn nodi'r hyn nad wyf yn mynd i'w wneud heddiw. Ni chaf fy nhynnu i mewn i geisio dadansoddi detholiad o adroddiadau dros bum mlynedd diwethaf ein GIG. Roedd pob un o'r adroddiadau hynny'n peri gofid ynddo'i hun. Roedd pob un yn eithriadol o anodd i'r bobl yr effeithiwyd arnynt. Roedd gwersi i'w dysgu o bob un ohonynt: gwersi ar gyfer ein GIG; gwersi o ran ein hymagwedd tuag at ymyrraeth ac uwchgyfeirio. Felly, nid wyf am ddefnyddio enghreifftiau o berfformiad y GIG er mwyn pwyntio bys at bobl eraill neu rannau eraill o'r GIG yn y DU. Rwy'n glir fod gornest gwleidyddiaeth plaid, wythnos yn unig ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, yn tynnu sylw pawb ohonom oddi wrth yr hyn y mae teuluoedd wedi dweud wrthym sy'n bwysig mewn gwirionedd. Ein gwaith ni yw gwrando arnynt ac unioni'r hyn na ddylai fod wedi mynd o'i le, a dyna pam y cyflwynasom ein gwelliant.

Ni all yr un ohonom ddeall yn iawn pa mor ofidus y mae hyn wedi bod, ac yn parhau i fod, i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Ond mae'r ffordd urddasol y maent wedi ymateb yn creu argraff arnaf. Mae lefel yr ymrwymiad y maent wedi'i ddangos wrth fynegi eu dymuniad i weithio gyda ni, i lywio a llunio'r gwelliannau sydd eu hangen mewn gwasanaethau mamolaeth, yn dyst i hynny. Fy mlaenoriaeth yn awr yw cymryd pob cam angenrheidiol i fodloni eu disgwyliad na fydd hyn yn digwydd i deuluoedd eraill.

Bydd y panel goruchwylio annibynnol yn allweddol i roi'r sicrwydd hwnnw. Mae Mick Giannasi, fel cadeirydd y panel, wedi dechrau ar ei waith ar unwaith. Siaradais ag ef ddoe, ac mae'n llwyr ddeall cyfrifoldeb ei rôl. Bydd Mick Giannasi a Cath Broderick, awdur yr adroddiad teuluoedd, yn ymuno â mi yr wythnos nesaf pan fyddaf yn cyfarfod â'r teuluoedd. Rwyf am i'r teuluoedd hynny gael dweud eu barn wrth lunio gwaith y panel, ond rwyf hefyd am ddiolch iddynt yn bersonol am y ffordd y maent wedi cymryd rhan yn yr adolygiad ac am fod yn barod i rannu eu profiadau. Gobeithio y gallant gael rhyw gysur o wybod bod rhywun yn gwrando arnynt, ac y bydd camau'n dilyn.

Ni ellir gwadu bod y safonau a ddaeth yn norm mewn rhannau o'r gwasanaethau mamolaeth hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'r methiannau yn y  prosesau llywodraethu a olygai nad oedd canlyniadau'n cael eu huwchgyfeirio i'r bwrdd yr un mor annerbyniol. Rwyf wedi dweud yn glir wrth Gadeirydd y bwrdd iechyd fy mod yn disgwyl iddo ef a'r bwrdd ystyried yn llawn sut y digwyddodd hyn, gan fod hynny'n rhan hanfodol o sicrhau na welwn fethiant tebyg yn y system yn y dyfodol. Rwy'n disgwyl i fwrdd Cwm Taf Morgannwg wneud popeth sydd ei angen i sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith o'r ward i'r bwrdd, a rôl David Jenkins yw eu helpu i gyflawni hyn.

Y prif ofyniad yw sicrhau diogelwch, gofal a lles mamau a babanod sy'n derbyn gwasanaethau mamolaeth. Rhaid i hynny gynnwys y diwylliant a'r arferion mwy agored a nodwyd gan Dawn Bowden, i ddisodli'r diwylliant cosbol a ddisgrifir yn yr adroddiad. Yn yr un modd, rhaid iddo hefyd gynnwys y gwelliannau o ran ymarfer, profiadau a chanlyniadau y cyfeiriodd Vikki Howells atynt. Rhaid i'r gwelliant y mae pawb ohonom yn ei geisio fod yn gyflym ac yn barhaus, a dyna fydd y sbardun sy'n llywio fy ngweithredoedd wrth imi gyflawni fy nghyfrifoldebau. Rwy'n benderfynol fod GIG Cymru yn ei gyfanrwydd yn dysgu o'r methiannau hyn yn y system. Byddaf yn gwneud hynny'n glir i gadeiryddion y byrddau iechyd pan fyddaf yn cyfarfod â hwy yfory. Rhoddwyd pythefnos iddynt adolygu canfyddiadau'r adroddiad a chyflwyno adroddiad ar eu gwasanaethau eu hunain. Felly, byddaf yn cael yr adroddiadau hynny yr wythnos nesaf.

Gwyddom i gyd fod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael gofal rhagorol gan ein gwasanaethau iechyd, ond ceir adegau pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae hynny'n wir yn anffodus am bob system gofal iechyd. Rydym wedi dangos y byddwn yn rhoi camau pendant ar waith i nodi ac ymateb i fethiannau pan fyddant yn codi. Rydym wedi dysgu gwersi, wedi datblygu ac yna wedi addasu ein dull o ymdrin ag uwchgyfeirio ac ymyrraeth o ganlyniad i hynny. Rydym wedi comisiynu ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i helpu i lywio ein dull o weithredu, gan ddefnyddio cymaryddion rhyngwladol, ac rydym yn ystyried ein profiad ein hunain. Felly, rwyf ymhell o fod yn hunanfodlon. Byddaf yn parhau i gymryd cyngor rheoleiddwyr, y panel annibynnol, fy swyddogion ac fel y dywedais, i geisio barn teuluoedd wrth inni ymateb i'r diffygion a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Felly, byddaf yn parhau i weithredu.

Rwy'n cydnabod y bydd menywod a theuluoedd, Aelodau yn y Siambr hon, a'r cyhoedd yn gyffredinol yn parhau i ddisgwyl tryloywder, gweld y camau a nodwyd gan adolygiad annibynnol y colegau brenhinol yn cael eu gweithredu'n llawn, clywed bod gofal mamolaeth yn hen ardal Cwm Taf yn ddiogel, yn urddasol, ac yn diwallu anghenion menywod a'u teuluoedd, a gweld tystiolaeth o hynny gan y panel annibynnol a chan y rhai sy'n derbyn gofal. Gweld a chlywed canlyniad y panel annibynnol a benodais. Bydd y panel annibynnol hwnnw'n adrodd yn rheolaidd felly, a chadarnhaf y byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach am eu gwaith a'u hargymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

Fel y gŵyr yr Aelodau, bydd y gwaith a wneir gan y panel annibynnol a David Jenkins yn cael ei ategu gan waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r cyrff hynny'n annibynnol ar y Llywodraeth. Byddant yn gosod telerau eu gweithgaredd eu hunain iddynt eu hunain yn seiliedig ar eu dadansoddiad o'r problemau. A bydd eu canfyddiadau, yn ôl yr arfer, yn cael eu cyhoeddi.

Dros yr wythnos ddiwethaf, cafwyd galwadau gan amryw o Aelodau'r gwrthbleidiau i rywun gael ei ddiswyddo. O ganlyniad i'r camau a gymerais, gallai'r panel annibynnol neu'r bwrdd ddod o hyd i dystiolaeth o ymddygiad sy'n galw ar y cyflogwr neu reoleiddiwr proffesiynol i weithredu. O dan yr amgylchiadau hynny, rwy'n disgwyl iddynt weithredu'n briodol, ond nid wyf wedi—ac ni fyddaf yn gofyn iddynt gymryd camau er fy lles i. Eu cylch gwaith yw helpu i wella ein gwasanaeth, er mwyn helpu i wasanaethu ein cyhoedd yn well. Nid oes bwledi arian ar gael. Dyna pam y dewisais y dull o weithredu a gyhoeddais. Gwneuthum ddewis, ac nid wyf am fynd ar ôl gwaed neb arall er fy lles i, i roi sicrwydd ffug, i roi camargraff o ateb sydyn na fyddai'n gwneud fawr ddim i sicrhau'r gwelliannau y mae menywod a'u teuluoedd yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.

Wythnos yn ôl, cyhoeddais adroddiad annibynnol llawn y colegau brenhinol a gomisiynwyd gennyf. Amlinellais y camau rwy'n eu cymryd. Credaf fod yn rhaid inni roi'r ffocws ar fenywod a'u teuluoedd sydd wedi cael cam, menywod a theuluoedd sy'n dal i fod angen gwasanaethau mamolaeth. Yn sicr, dyna yw fy ffocws i.