Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 8 Mai 2019.
Yn ei hanfod, dyna yw pwrpas y cynnig heddiw. Nid yw'n bwnc arbennig o bleidiol sy'n galw am rannu pobl ar hyd llinellau pleidiau. Mae'r cynnig heddiw yn ymwneud mwy â cheisio dod o hyd i gonsensws rhwng y gwahanol bleidiau yma, fel rydym ni yn UKIP bob amser yn ceisio ei wneud wrth gwrs. Felly, rwy'n ystyried y gwelliannau heddiw gan gadw hynny mewn cof.
Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn cytuno'n fras â'n hamcanion. Nid yw eu gwelliannau ond yn dileu rhan o un o'n pedwar pwynt. Fodd bynnag, er bod cymaint â hynny'n wir, mae'n dileu ein hawydd am strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru ar weithio gartref o fewn y prosiect i olynu Superfast Cymru. Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru yn y pen draw ymrwymo i fanylion os ydym am gyrraedd unman gyda'r genhadaeth hon. Felly, nid ydym yn cytuno â'r gwelliant hwn, er ein bod yn cydnabod mai dyna'r unig ran y mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w newid. Nid ydynt yn dweud 'dileu popeth' yn ein cynnig y tro hwn. Felly, mae hynny fach yn addawol.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn nodi'r pwynt y gall fod anfanteision i weithio gartref. Nid wyf yn gwadu na fydd gweithio gartref yn gweithio i bawb o reidrwydd. Felly, nid y nod yw gwthio pobl i weithio gartref yn erbyn eu hewyllys, ond yn hytrach ei gwneud yn haws i'r bobl y byddai'n well ganddynt weithio gartref i allu gwneud hynny. Mewn gwirionedd, mae'r pwynt a ddyfynnir yng ngwelliant y Ceidwadwyr yn deillio o un rhan o adroddiad sydd, ar y cyfan, yn ffafriol i'r syniad o weithio gartref. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio nad ydym am wthio pobl i wneud rhywbeth nad ydynt am ei wneud. Felly, rydym yn derbyn rhesymeg y gwelliant a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw.
Y sbardun y tu ôl i'r cynnig heddiw yw technoleg newydd a'r newidiadau yn ein ffordd o fyw y gallai technoleg newydd eu galluogi. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU wedi cael ei llethu gan brosiect trafnidiaeth drud iawn—rwy'n cyfeirio at HS2—sydd wedi bod yn hynod o ddadleuol ac a fu'n faen melin am wddf Llywodraeth San Steffan am bron yr holl amser y bu mewn grym. Yn ddiddorol, er ein bod bron â bod wedi anghofio hyn yn awr o bosibl, syniad gwreiddiol y Llywodraeth Lafur ddiwethaf oedd HS2 mewn gwirionedd. Cafodd ei gynnig yn gyntaf yn 2009 pan oedd Gordon Brown yn dal yn ei swydd. Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu dryswch tebyg ynglŷn â ffordd liniaru'r M4. Mae'r cynllun hwn hefyd wedi gweld costau cynyddol, a fydd yn anochel yn atal gwariant mewn meysydd eraill os bydd y prosiect yn cael ei gymeradwyo mewn gwirionedd.
Y rheswm pam y soniaf am y cynlluniau trafnidiaeth hyn yw y gallent fod bron yn ddiangen mewn ffordd. Rwy'n gwybod bod hynny'n swnio'n rhyfedd pan fo gennym gymaint o draffig yn llenwi'r ffyrdd, ond y pwynt i'w gadw mewn cof yw bod buddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd, mewn rhai ffyrdd, yn gyfystyr â buddsoddi mewn hen dechnoleg. Mae'n fuddsoddiad sy'n seiliedig ar syniad y bydd angen am byth i filiynau lawer o bobl deithio'n ffisegol o un lle i'r llall yn ddyddiol er mwyn gwneud eu gwaith.
Pan feddyliwch am y peth, pe baem yn datblygu rhwydwaith band eang cyflym a dibynadwy ledled y DU, ni fyddai angen i gynifer o bobl deithio ar drenau neu geir neu hyd yn oed ar fysiau. Ni fyddai angen i gymaint o bobl deithio i swyddfa bob dydd pe bai modd iddynt wneud yr holl waith y byddent yn ei wneud yn y swyddfa yr un mor hawdd gartref. Rhaid cyfaddef na fydd gweithio gartref, wrth gwrs, yn effeithio fawr ddim ar y sector gweithgynhyrchu, y sector prosesu neu'r sector amaethyddol. Ond wrth gwrs, mae swyddi gweinyddol wedi dod yn rhan fawr o'r economi a gallai gweithio gartref effeithio'n fawr ar y sector hwnnw. Os oes angen cyswllt rhwng y cyflogai a'r rheolwr neu'r rheolwr canol, gellir hwyluso hyn dros y ffôn y dyddiau hyn, gan gynnwys drwy alwad gynadledda neu drwy Skype, drwy e-bost gan gynnwys drwy gadwyni e-bost sy'n cynnwys llawer o bobl, a dulliau eraill o negeseua electronig.
Nid wyf yn awgrymu y gall pob gweithiwr swyddfa weithio gartref drwy'r amser, ond os gallwn leihau nifer y bobl sy'n teithio i'r gwaith bob dydd, byddai hynny'n helpu i leddfu'r pwysau ar rwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, efallai nad oes llawer o gymhelliant i gwmnïau symud tuag at fwy o weithio gartref. I benaethiaid cwmnïau, gellid ystyried bod cyflwyno mwy o weithio gartref yn niwsans. Dyna pam y mae'n rhaid i ni feddwl am ddefnyddio cymhellion treth a/neu brosesau cytundebol i geisio cael cwmnïau i feddwl mwy ar hyd y llinellau hyn.
Rwyf wedi holi Llywodraeth Cymru beth yn union y mae'n ei wneud i annog mwy o weithio gartref. Rwyf wedi gofyn dau gwestiwn i'r Prif Weinidog ar y pwnc hwn, er enghraifft. Er eu bod yn cytuno'n fras â'r nodau, mae'r atebion a gefais hyd yn hyn braidd yn amwys ynglŷn â'r manylion. Rydym yn sylweddoli yn UKIP fod prosiect mawr yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd a chyflymder band eang ledled Cymru, ac yn amlwg bydd y prosiect hwnnw'n effeithio'n fawr ar ba mor bell y gallwn esgor ar oes o fwy o weithio gartref. Felly, rydym yn cydnabod hynny. Ond o ran cynlluniau penodol sy'n cymell cwmnïau yng Nghymru i gyflwyno neu ymestyn gweithio gartref, nid wyf wedi gallu dod o hyd i rai. Wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb yn ymateb y Gweinidog heddiw ac os wyf wedi methu gwaith pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol yn y maes hwn, byddaf yn bendant yn syrthio ar fy mai. Ond yn sicr, nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw waith penodol gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Gwn fod yna raglen datblygu busnesau ar gael, sy'n ceisio tynnu sylw busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru at fanteision defnyddio cysylltedd band eang gwell pan fydd yn bodoli yn eu hardal, a cheir gwaith academaidd diweddar sydd hefyd yn amlygu manteision masnachol gwneud hynny. Ceir cysylltiad hefyd â'r gwaith a wneir gan y Comisiwn Gwaith Teg, gyda rhan ohono'n ceisio annog cwmnïau i feddwl am allbynnau yn hytrach na'r oriau a weithir. Mae hwn yn ddull arall a allai helpu cwmnïau i feddwl am fwy o weithio gartref, er nad yw'r naill ongl na'r llall yn ymwneud yn benodol ag union fater gweithio gartref.
Felly, a oes pethau eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud? Yn y gorffennol, dywedwyd wrthym y byddent yn hwyluso'r broses o benodi cydlynwyr cynlluniau teithio, a oedd i fod i weithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i annog teithio cynaliadwy, a byddent yn annog pethau fel rhannu ceir, ond hefyd, yn fwy at y pwynt ar gyfer y cynnig heddiw, fideogynadledda a gweithio gartref. Serch hynny, cefais drafferth dod o hyd i lawer o wybodaeth am y cydlynwyr cynlluniau teithio hyn, ac efallai ei fod yn syniad sydd mewn perygl o lithro drwy'r craciau.
Yn y cynnig heddiw, gofynnwn am fesurau penodol, megis galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i gynnwys gweithio gartref yn y gwaith o gynllunio swyddi a sut y caiff y swyddi hynny eu hysbysebu a sut y caiff pobl eu recriwtio. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect i olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu llyffetheirio gan ddiffyg mynediad at fand eang.
Soniais am y manteision i'r system drafnidiaeth o annog mwy o weithio gartref, ac nid dyna'r unig fantais, o bosibl. Mae'n ffaith hefyd mai un o'r problemau sy'n effeithio ar ddiwydiant Prydain yw cynhyrchiant. Os yw pobl yn gweithio mewn amgylchedd sy'n fwy dymunol iddynt, mae'n ddigon posibl y bydd y cynnyrch yn cynyddu, cyn belled, wrth gwrs, â bod y rhai sy'n gweithio gartref wedi'u hyfforddi'n briodol i wneud y gwaith ac yn cael hyfforddiant parhaus. Mae manteision hefyd i'r rheini sydd â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill, sy'n tueddu i fod yn fwy tebygol o fod yn fenywod, a hefyd rhai ag anableddau corfforol o gyflwyno amgylchedd gwaith yng Nghymru sy'n fwy parod i dderbyn gweithio gartref.
Mae'r pwyntiau hyn wedi'u gwneud hefyd gan ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O'Grady. Nododd ym mis Mai 2018 mai dim ond 1.6 miliwn oedd nifer y bobl a weithiodd yn rheolaidd o gartref yn y DU yn y flwyddyn flaenorol, ffigur a oedd wedi aros yr un fath ers y flwyddyn cynt. Nododd ddau reswm pam y mae gweithio gartref wedi arafu. Un oedd cyflymder band eang hynod amrywiol y DU, y llall oedd bod gormod o reolwyr llinell yn dal i gredu na ellir ymddiried mewn gweithwyr heb eu goruchwylio'n gyson. Felly, mae yna frwydr ddiwylliannol i'w hennill o ran yr ail bwynt.
I ryw raddau, mae angen i bobl sy'n gweithio ym maes rheoli gael eu hargyhoeddi o fanteision gweithio gartref. Fodd bynnag, yn ddiddorol, mae 12 y cant o reolwyr yn gweithio gartref yn barhaol, ond tua 2 y cant yn unig o gyflogeion sy'n gwneud hynny. Ystadegyn trawiadol arall yw mai 6 y cant yn unig o weinyddwyr sy'n gweithio gartref yn y DU er y gellid yn hawdd gyflawni llawer o'u tasgau o bell y dyddiau hyn. Felly, ledled y DU, mae'n amlwg fod llawer o waith i'w wneud ar y mater hwn. Efallai y gallwn geisio arwain y ffordd ar hynny yma yng Nghymru.