Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 8 Mai 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, fel y dywedais yn ystod fy natganiad ar waith teg ddoe, rydym am i Gymru fod yn fan lle gall pawb gael gafael ar waith sy'n weddus ac yn gwella bywyd, yn rhydd o gamfanteisio a thlodi a lle caiff pobl gyfle i ddatblygu eu sgiliau ac i symud ymlaen. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau twf economaidd cynhwysol yng Nghymru. Rydym am gael busnesau llewyrchus, gyda gweithwyr yn elwa drwy gyflogaeth deg a sicr ar gyflog da.
Mae partneriaeth gymdeithasol yn darparu mecanwaith i helpu i gyflawni'r amcan hwn. Drwy gynnwys y Llywodraeth, undebau a busnesau mewn penderfyniadau sy'n helpu i lunio'r amgylchedd gwaith ar lefel leol a chenedlaethol, gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau economi decach. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i amcanion partneriaeth gymdeithasol. Gan weithio law yn llaw â'r undebau llafur, rydym wedi arwain yn y DU, gan hyrwyddo pwysigrwydd sicrwydd swydd, cyflog ac amodau gwaith gweddus. Mae'r heriau a wynebwn yn golygu bod yn rhaid i ni gryfhau ein model partneriaeth gymdeithasol ymhellach, gan roi lle canolog i gydraddoldeb. Rydym wedi ymrwymo i ddeddfu, felly, i roi partneriaeth gymdeithasol ar y sail statudol honno a drafodwyd gennym ddoe ddiwethaf yn ystod fy natganiad.
Ar y cyd â'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gweithio hyblyg ac arferion cyflogaeth deg eraill, gan wneud hyn drwy ein contract economaidd, y cynllun cyflogadwyedd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi er enghraifft. Mae gwefan Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth i gyflogwyr ar sut i wella cynhyrchiant drwy drefniadau gweithio hyblyg, a sefydlwyd y Comisiwn Gwaith Teg i'n cynghori ar beth arall y gallwn ei wneud. Mae wedi cwblhau ei waith ac fel y dywedais ddoe yn ystod fy natganiad, mae'r adroddiad wedi'i gyhoeddi a byddwn yn ymateb cyn bo hir.
Roedd galwad y Comisiwn Gwaith Teg am dystiolaeth yn rhoi cyfle gwych i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, y sector preifat ac unigolion ledled Cymru hyrwyddo a darparu safbwyntiau ar waith teg, gan gynnwys arferion gwaith hyblyg, ac fel y nododd Russell George, mae'n bwysig iawn cydbwyso'r hyn sy'n iawn i unigolion yn ogystal â chyflogwyr a busnesau. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod lles gweithwyr yn hollbwysig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau arferion gweithio teg a moesegol, tra'n amddiffyn hawliau a chyfrifoldebau unigolion a gyflogir hefyd. Mae ein contract economaidd, sydd wedi'i nodi yn ein cynllun gweithredu economaidd, yn cyflwyno ein cyfle i gynnal deialog gyda chyflogwyr ar faterion sydd â'r potensial i gefnogi unigolion yn ogystal â'u busnesau. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n ceisio cymorth ariannol uniongyrchol ymrwymo i ystod o feini prawf, gan gynnwys gwaith teg a hybu iechyd, uwchsgilio a dysgu yn y gweithle, ac mae hynny'n cynnwys hyrwyddo arferion gweithio hyblyg—neu fodern, fel y'u gelwir mewn gwirionedd. Bydd angen i bob cwmni sy'n gwneud cais am gymorth grant busnes uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ddangos ei fod wedi ymrwymo i waith teg ac i hybu iechyd yn y gweithle—ac wrth ddweud gweithle, wrth gwrs, rwyf hefyd yn golygu cartrefi pobl, os mai dyna, yn rhannol, yw eu gweithle.