Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 21 Mai 2019.
Wel, Llywydd, gan ein bod ni'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud y bydd y fasnachfraint newydd yn darparu 285 o wasanaethau ychwanegol ledled Cymru bob dydd yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sul erbyn Rhagfyr 2023, a 294 o wasanaethau ychwanegol ledled Cymru erbyn Rhagfyr 2019. Hyd y gwn i, bydd cyfleusterau modern a chyfredol gan gynnwys cyfleusterau toiled yn y cerbydau newydd yr ydym ni'n eu caffael, wrth gwrs, ond hefyd Wi-Fi a phethau eraill y mae gan bobl sy'n teithio mewn system reilffyrdd fodern yr hawl i'w disgwyl.FootnoteLink