Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 21 Mai 2019.
Byddwch yn cytuno â mi, rwy'n siŵr, bod cynllun metro de Cymru yn gwbl hanfodol i gysylltu ein cymunedau yng nghymoedd y de gyda chyfleoedd swyddi a thwf prifddinas-ranbarth ehangach Caerdydd. A allwch chi ddweud wrthym ni felly, Prif Weinidog, sut y mae'r gwaith o ddarparu'r ddau brosiect pwysig hyn yn cael ei gydgysylltu, yn enwedig o ran datblygiad prosiect y metro yn y dyfodol?