Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 21 Mai 2019.
Diolchaf i Vikki Howells am hynna. Ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus y mae cynigion y Papur Gwyn, 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus', a fydd yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i hwyluso system drafnidiaeth integredig well yma yng Nghymru. Mae gennym ni ein buddsoddiad hirdymor mewn trafnidiaeth gyhoeddus sy'n dechrau gyda metro de Cymru, ac yng nghymoedd y de yn benodol, wrth gwrs, mae gennym ni waith tasglu'r Cymoedd.