Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 21 Mai 2019.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol os byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ar yr un pryd, rydym ni'n adnewyddu ein cynllun gweithredu ar adfer natur i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth ac yn adolygu brys y camau gweithredu yn ein cynllun carbon isel yng ngoleuni'r datganiad o argyfwng hinsawdd.