Gwneud Oedrannau Pensiwn Menywod yn Gyfartal

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:40, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn atodol. Mae'n nodi yn ei chwestiwn rai o ganlyniadau trasig gweithredoedd Llywodraeth y DU ym mywydau'r menywod hyn, ac rydym i gyd yn uniaethu â'r sylwadau y mae'n eu gwneud yn ei chwestiwn. O ran y pwynt ynglŷn â'm pwerau i i ymyrryd a phwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd, dyna'r math o beth yr wyf i, wrth gwrs, yn dal i'w ystyried yn barhaus, a bydd hynny'n berthnasol yn yr achos hwn fel yn unrhyw un arall.