Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 21 Mai 2019.
Iawn, diolch. Wel, un ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gydymffurfio â deddfwriaeth forol â physgodfeydd yw drwy ddefnyddio llongau patrolio pysgodfeydd. Nawr, rwyf wedi bod yn cynnal ymchwiliad ar ran rhai etholwyr a gododd hyn gyda mi i weithgareddau'r rhai a angorwyd yn Aberconwy rhwng Ionawr 2017 a Chwefror 2019. Yr hyn yr wyf wedi'i ganfod yw bod y llongau patrolio pysgodfeydd yr Aegis, y Cranogwen a'r Lady Megan wedi dod ar draws cyfanswm o 108 o longau, sy'n cyfateb i tua un yr wythnos. Yn fwy na hynny, dim ond cyfanswm o bum torcyfraith a ganfuwyd, ac o ganlyniad ni chafodd unrhyw ddirwyon eu codi yn ystod y cyfnod 26 mis hwn. Nawr, wrth ystyried yr ystadegau ofnadwy hynny ar orfodi ac erlyn, ac o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2.6 miliwn mewn llong patrolio pysgodfeydd newydd, mae trethdalwyr a physgotwyr lleol yn haeddu atebion ynglŷn â beth yn union sy'n digwydd. A wnewch gynnal adolygiad o weithgareddau'r llongau patrolio pysgodfeydd fel modd o orfodi deddfwriaeth, ac, yn gyffredinol, ac ymhellach, a fyddech chi'n ystyried lle y mae deddfwriaeth ar waith, lle y mae angen gorfodi, a lle y torrir y ddeddfwriaeth, ac mewn gwirionedd sicrhau, lle mae angen erlyniadau, eu bod yn cael eu cyflawni?