2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 21 Mai 2019.
6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar ynghylch ymgorffori confensiynau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru? OAQ53907
Mae grŵp rhanddeiliaid wedi'i sefydlu i ystyried y ffordd orau o blethu deddfwriaeth newydd i dapestri cyfreithiol unigryw Cymru ar gyfer diogelu hawliau dynol. Er enghraifft, fel y dengys Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a'n hymrwymiad i gychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldebau 2010, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i ddod â hawliau adref.
A ydych chi wedi gofyn eich cwestiwn atodol?
Na.
Gallwch chi wneud hynny unrhyw bryd.
Rwy'n sylweddoli, Llywydd, fy mod i wedi bod ar fy nhraed gryn dipyn yn ystod y munudau diwethaf, a gallaf ddeall yn llwyr y gallai rhywun fod wedi colli trac.
Chi neu fi, Helen Mary? Pwy sydd wedi colli golwg ar bethau?
Llywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb ac mae'n gadarnhaol clywed bod y gwaith yn mynd rhagddo. Wrth gwrs, mae'r penderfyniad i ohirio Brexit yn rhoi ychydig bach o amser inni ystyried ymhellach yr heriau a fydd, o bosibl yn cael eu gosod ger ein bron o ran colli'r diogelwch y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei roi i ni ynghylch gorfodi rhai agweddau ar ddeddfwriaeth hawliau dynol. Ond fel y cyfeiriodd Lynne Neagle ato mewn cwestiwn cynharach i'r Prif Weinidog, bydd y misoedd ychwanegol hyn yn mynd heibio'n gyflym iawn. Felly gofynnaf am sicrwydd gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw ei fod ef a'r Llywodraeth, yng nghanol y llu o faterion—materion tymor byrrach—y maent yn gorfod eu hwynebu o ran deddfwriaeth Brexit, yn ymrwymo yn y tymor hwy i fwrw golwg ddifrifol ar ymgorffori'r confensiynau yng nghyfraith Cymru a'r ffordd orau o wneud hynny heb iddynt fynd ar goll?
Wel, rwy'n hapus i dawelu meddwl yr Aelod. Mae hon yn drafodaeth fyw yn y Llywodraeth. Fel y soniais, mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn adran 1 y Ddeddf Cydraddoldeb, ynghyd â gwaith yr adolygiad o gydraddoldeb rhywiol, dan arweiniad Dr Alison Parken, a bodolaeth, yn amlwg, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn darparu'r cyd-destun ar gyfer ystyried y mathau o faterion y credaf ei bod yn ymwybodol, yn sgil ein trafodaethau blaenorol, fy mod innau hefyd yn rhoi pwys mawr arnynt, fel y mae'r Llywodraeth yn gyffredinol.
Un o'r agweddau hollbwysig o adael yr Undeb Ewropeaidd yw colli mynediad i Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi dod â manteision mawr i'r DU. Byddwn yn ceisio sicrhau y gallwn wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr nad yw pobl yng Nghymru yn colli hawliau nad oeddent yn sicr wedi pleidleisio i'w colli yn ystod y refferendwm yn 2016.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.