Gorfodi Deddfwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:33, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n synnu o glywed yr Aelod yn beirniadu ein hymagwedd tuag at geisio gorfodi'r rheoliadau yr ydym yn gyfrifol am eu gorfodi. Byddwn wedi gobeithio y byddai wedi cefnogi'r Llywodraeth i orfodi'n ymarferol ac yn rhagweithiol y rheoliadau yr ydym yn gyfrifol am eu gorfodi yma yng Nghymru. Ac rwy'n meddwl bod buddsoddi mewn llongau patrolio pysgodfeydd yn fuddsoddiad synhwyrol iawn ar ran Llywodraeth Cymru, a byddant yn brysurach o ganlyniad i Brexit, os caf i gyfeirio hynny at yr Aelod.

Ers imi ddod yn Gwnsler Cyffredinol, rwyf wedi bod yn glir bod y gwaith sy'n ymwneud â gorfodi pysgodfeydd yn arbennig yn flaenoriaeth, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyfreithwyr i ganfod beth yw cyflwr yr holl erlyniadau sydd gennym yn gysylltiedig â thorri gweithrediadau ledled Cymru. Holl bwynt hynny yw cynnal momentwm a sicrhau nad yw pobl yng Nghymru yn gallu diystyru'r rheoliadau sy'n berthnasol ac sydd yno i ddiogelu stociau o welyau pysgod cregyn ac ati sy'n aml yn sensitif iawn, a chynefinoedd morol eraill, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw'n ddifrifol iawn.