Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 21 Mai 2019.
Gyda chymaint o blant yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, safleoedd hapchwarae a negeseua, mae plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad cynyddol â'r bygythiad o gam-drin neu gamfanteisio gan oedolion a'u cyfoedion. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod plant a phobl ifanc yn treulio 15 awr ar gyfartaledd ar-lein bob wythnos, ac roedd 70 y cant o'r troseddau a gofnodwyd o gyfathrebu rhywiol â phlentyn yng Nghymru a Lloegr yn 2017-18 yn digwydd ar Facebook, Snapchat neu Instagram.
Rydym yn gwybod bod pobl sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i dargedu nifer sylweddol o blant, ac mae mathau newydd o dechnoleg wedi cynnig cyfleoedd i'r camdrinwyr reoli a gorfodi plant i gymryd rhan mewn dulliau mwy eithafol o gam-drin.
Yr wythnos diwethaf, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, yr wyf yn gadeirydd arno, clywsom yn uniongyrchol gan berson ifanc am ei brofiadau o feithrin perthynas amhriodol ar-lein a'r effeithiau parhaol a gafodd hynny. Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar y pryd a phan fyddan nhw'n ceisio ymdrin â'u profiadau yn nes ymlaen mewn bywyd.
Rwyf wedi cyflwyno datganiad barn ar fynd i'r afael â cham-drin ar-lein a byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi hyn. Hoffwn ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar y camau y gall y Llywodraeth eu cymryd i gadw plant a phobl ifanc yn fwy diogel ar-lein.