4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Glasbrintiau Cyfiawnder

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:47, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r bwriad i wrthdroi preifateiddio'r gwasanaeth prawf. Beirniadwyd yn eang y fenter gwneud arian hon a rhybuddiwyd yn ei herbyn yn y lle cyntaf. Ond bydd y sector preifat yn parhau i fod yn rhan o'r gwasanaeth prawf; dim ond 80 y cant o'r gwaith prawf a gaiff ei dynnu'n ôl o breifateiddio. Nawr, mae Napo wedi codi pryderon bod y ddarpariaeth o waith di-dâl a rhaglenni achrededig yn dal i ddod o dan y system a breifateiddiwyd, ac rwyf innau'n rhannu eu pryderon nhw am hynny. Mae Napo wedi dweud:

Mae'n amlwg ein bod ni'n siomedig y bwriedir cadw rhywfaint o waith prawf yn y sector preifat. Bydd Napo yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod yr holl wasanaethau hyn a'n haelodau ni sy'n eu darparu, yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r sector cyhoeddus yn y pen draw ac y byddwn ni'n dwysáu ein hymdrechion i sicrhau cydraddoldeb cyflog i bob aelod o staff prawf.

A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai datganoli'r cyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol yn caniatáu inni fynd â'r mater hwn oddi ar ddwylo'r Torïaid am byth a gweithredu system sy'n lleihau troseddu mewn ffordd briodol yn ogystal â diogelu cymunedau rhag troseddwyr sy'n achosi niwed? Ac a yw hi'n cytuno y dylai gwaith di-dâl a gwaith grŵp fod yn rhan o wasanaeth prawf cyhoeddus unedig?

Rwy'n falch o weld bod y syniad o garchar i fenywod yng Nghymru wedi cael ei ddiystyru. Yn hytrach, mae'r alwad am fwy o ddulliau cymunedol yn hyglyw ledled y sector. Mae elusen Women in Prison yn dweud bod carchar i fenywod yn atgyfnerthu trawma, yn achosi problemau iechyd meddwl ac yn cynyddu'r perygl o hunan-niweidio, tra bod Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn dweud bod menywod sy'n cael eu rhyddhau o garchar yn fwy tebygol o aildroseddu na'r rhai sy'n cael dedfrydau cymunedol. Dywed Peter Clarke, Prif Arolygydd Carchardai EM, fod pellter o'r cartref a'r teulu yn waeth i garcharorion benywaidd ac, felly, gallai cyfleuster neu gyfleusterau cymunedol llai olygu canlyniadau gwell.

Yn amlwg, ceir achos cryf iawn dros ganolfannau preswyl newydd yng Nghymru i droseddwyr sy'n fenywod. Mae strategaeth troseddwyr benywaidd y Llywodraeth wedi galw am 10 canolfan i fenywod, ond dim ond un o'r rhain sydd i fod yng Nghymru, ac mae'r Pwyllgor Materion Cymreig, y gwnaeth fy nghydweithwyr Liz Saville Roberts a Ben Lake gyfraniad iddo, wedi argymell bod angen dwy yng Nghymru—un yn y gogledd ac un yn y de. Ni fyddai un ganolfan yn unig yng Nghymru yn ddigon da. Bydd yn rhaid cael darpariaeth mewn dwy ran o'r wlad i liniaru'r problemau sydd gennym ar hyn o bryd o ran pellter.

Felly, pa ymdrechion yr ydych yn eu gwneud gyda Llywodraeth y DU i bwysleisio argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid cael o leiaf dwy ganolfan yng Nghymru? A beth allwch chi ei wneud ynglŷn â'r broblem a godwyd gyda mi'r wythnos diwethaf gan un o'r troseddwyr benywaidd, y gwnaeth ein pwyllgor gyfarfod â nhw yng Ngharchar Eastwood Park yr wythnos diwethaf fel rhan o ymchwiliad yr ydym yn ei gynnal, lle mae diffyg llety cymeradwy i fenywod yn golygu nad oes modd rhyddhau rhai carcharorion ar dag, tra gall eraill sydd â chyfeiriad cartref gael eu rhyddhau? Beth allwch chi ei wneud ynghylch llety cymeradwy i droseddwyr sy'n fenywod?

Er ei bod yn bwysig ystyried ble a sut i ymdrin orau â throseddwyr benywaidd, mae'n bwysig hefyd canolbwyntio'r ddadl ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n achosi troseddu. Mae angen gwneud mwy i ystyried yn ddifrifol y canlyniadau cymdeithasol, teuluol a phersonol o roi menywod mewn carchar, ond, at hyn, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael o ddifrif â chanlyniadau ac effaith dedfryd o garchar wedi rhyddhau, ac mae hynny'n gymwys i bawb, nid dim ond i fenywod sy'n garcharorion.

Mae troseddwyr ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl, digartrefedd ac aildroseddu i gyd yn sgil-gynhyrchion mynd i mewn i'r system carchardai oni bai bod gennym gynlluniau ar waith i gefnogi'r bobl hyn. Mae angen cwnsela digonol ar gyfer profiadau andwyol yn ystod plentyndod er mwyn gwrthweithio effeithiau trawmatig ar y teulu, mae angen gwasanaethau iechyd tu mewn a thu allan i'r carchar i fynd i'r afael â dibyniaeth a materion iechyd meddwl, ac mae angen tai a blaenoriaethu priodol er mwyn ymladd digartrefedd. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym beth ellir ei wneud i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn gyntaf oll pan fyddan nhw'n digwydd yn ystod plentyndod, ac, yn ail, beth ellir ei wneud i helpu oedolion sydd wedi goroesi eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod? Bydd ymdrin â'r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn sicr o leihau troseddu. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw?