Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 21 Mai 2019.
A gaf i ddechrau drwy ddweud cymaint yr wyf i'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma a chyhoeddiad y glasbrintiau hyn? Fe ddylwn i ddweud hefyd fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei geiriau caredig yn ei datganiad. Mae methiant y system cyfiawnder troseddol i roi ystyriaeth briodol i'r setliad datganoledig a rhoi sylw priodol iddo bron iawn yn warthus. Ffaith drist yw mai rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein gwlad sy'n talu'r pris mwyaf am y gwarth hwn. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi sylw priodol iddo yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddi'r glasbrintiau hyn yn sicrhau bod y ddadl honno'n digwydd.
Rwy'n croesawu'r pwyntiau hefyd a wnaeth y Gweinidog ynglŷn â'r cyhoeddiad a wnaed yr wythnos diwethaf am ddyfodol y gwasanaeth prawf. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r beirniadaethau o hynny a wnaeth Leanne Wood y prynhawn yma. Rwyf i o'r farn ei bod hi yn llygad ei lle, a'r hyn y byddem i gyd yn hoffi ei weld, rwy'n credu, ar wahanol ochrau i'r Siambr hon, yw dychwelyd at ddarpariaeth gyhoeddus safonol a rheolaeth gyhoeddus o'r gwasanaeth hwnnw i sicrhau bod anghenion y troseddwr a'r gymuned yn dod yn gyntaf ac nad ydym ni'n dilyn y llwybr, yn anfwriadol, o wneud elw preifat yn ffactor ysgogol i gyflenwad y gwasanaeth hwnnw.
Fel eraill y prynhawn yma, rwyf innau wedi darllen adroddiad Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin gyda diddordeb mawr. Roedd y pwyllgor dethol wedi gallu nodi'r holl broblemau sy'n wynebu'r gwasanaethau, ond yn anffodus nid oedd yn gallu cytuno ar unrhyw ddatrysiadau i'r problemau hynny. Pethau felly yw pwyllgorau dethol yn Nhŷ'r Cyffredin. Ond rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni'r prynhawn yma i ddeall bod nodi'r problemau yn gam cyntaf, ond ein gwaith ni, ac yn sicr eich gwaith chi, Gweinidog, fel Llywodraeth, yw dod o hyd i'r atebion hynny.
Rwy'n gobeithio y gallwn ni symud yn gyflym, yn gyntaf i sefydlu system i ymdrin â menywod yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o fod yn y gyfundrefn honno. Mae hynny'n golygu y bydd angen inni droi at y polisi dedfrydu hefyd. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, eich bod chi wedi cael cyfle i drafod y materion hyn gyda'r farnwriaeth i sicrhau bod polisi dedfrydu yn ystyried datblygiad polisi yn fwy eang yn y maes hwn, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n dadlau ein hachos. Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wneir am ganolfan i fenywod sy'n lleol i fenywod mewn gwahanol ranbarthau o'r wlad, ac mae hynny'n dadlau o blaid mwy nag un ganolfan ac nid dim ond un ganolfan sydd wedi cael ei hadeiladu er hwylustod i'r gwasanaeth ei hun ac nid er hwylustod y bobl a fydd yn derbyn y gwasanaeth hwnnw.
Ac rwy'n gobeithio hefyd, Gweinidog, y gallwn ni gytuno y bydd y ganolfan hon i fenywod yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hollbwysig, yn fy marn i, ein bod ni'n symud i ffwrdd oddi wrth y trafodaethau am garchar i fenywod, a gafwyd yn y gorffennol. Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau y bydd canolfan i fenywod yn sefydliad cwbl wahanol a'i fod yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, a'r gwasanaethau a ddarperir yno'n cael eu darparu ar gyfer menywod fel unigolion a hefyd ar gyfer plant ac ar gyfer menywod yn benteuluoedd, a'n bod ni'n sicrhau ein bod ni'n gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, nid mewn ffordd sy'n cosbi'n unig, ond mewn ffordd sy'n eu galluogi i gyrraedd eu potensial a chael byw fel y bydden nhw'n dymuno byw.
O ran pobl ifanc, rwyf i o'r farn bod y ffordd yr ydym ni'n trin plant a phobl ifanc ynddi heddiw yn gwbl drychinebus. Mae'r ganolfan i droseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc yn cael ei staffio gan bobl sy'n gweithio'n eithriadol o galed i wneud eu gorau glas er mwyn y bobl sydd yno. Ond gwyddom fod angen cyfleusterau penodol ar gyfer pobl ifanc, ac mae angen sicrhau hefyd bod y bobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder troseddol heddiw yn cael cyfle i greu bywydau fydd yn wahanol yn y dyfodol, ac mae hynny'n golygu hyfforddiant ac addysg sy'n eu galluogi nhw i wneud hynny.
Yn olaf, gadewch i mi ddweud hyn, Gweinidog: roeddwn i'n falch iawn o glywed y datganiad a wnaethoch chi'n gynharach, ond hefyd eich ymrwymiad i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol. Rydym yn y sefyllfa hurt heddiw lle nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu cyflawni ei pholisi ei hun yng Nghymru, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu cyflawni ei pholisi hithau ychwaith. Felly, mae gennym ddwy Lywodraeth nad ydyn nhw'n gallu cyflwyno polisi mewn un maes. Mae hi'n hen bryd—ac mae hi'n ddyletswydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd cyfrifoldeb am hyn—i bobl Cymru gael eu gwasanaethu yn dda gan y rhai a etholwyd i wneud penderfyniadau ar y materion hyn. Mae'r methiant i fynd i'r afael â datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn gerydd sefydlog i'r seneddau ar hyn o bryd. Y bobl sy'n dioddef canlyniadau hynny yw'r bobl sydd, yn fwyaf tebyg, yn lleiaf galluog i beri i newid ddigwydd. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, pan fyddwch chi'n cyfarfod â Gweinidogion y DU, y byddwch chi'n ei gwneud hi'n gwbl glir iddyn nhw mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod gennym ni system sy'n addas at y diben, ac mae hynny'n golygu datganoli'r system yn ei chyfanrwydd i ganiatáu i ni ddilyn y polisi cyfannol yr ydym ni ac eraill yn awyddus i'w weld yn cael ei gyflawni er mwyn pobl y wlad hon.