Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 21 Mai 2019.
Wel, mae Mark Reckless yn hollol gywir y gall profion rheilffyrdd fyw fod yn drafferthus ac felly mae cael cyfleuster prawf 7 km, y gellir profi trenau i hyd at gyflymder o 120 milltir yr awr arno, yn ddymunol dros ben, nid i'r gweithredwyr a'r gweithgynhyrchwyr yn unig ond hefyd i deithwyr. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru a minnau, y Gweinidog sy'n gyfrifol, wedi bod yn meithrin y prosiect arbennig hwn, ond bellach rydym ni wedi ffurfio'r cytundeb cyd-fenter â Phowys a Chastell-nedd Port Talbot ac, yn gyfochrog â hynny, byddwn yn gweithio ar y cyd â'r tirfeddiannwr presennol, Celtic Energy, i sicrhau'r holl ddewisiadau angenrheidiol, yr holl ffurflenni tir a'r caniatâd angenrheidiol er mwyn caniatáu i'r prosiect rheilffyrdd fynd yn ei flaen yn brydlon. Ac felly, o'r dyddiad hwn ymlaen, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth lawn.
O ran y sector—ac wrth hynny rwy'n golygu ein bod ni wedi ymgysylltu'n helaeth â gweithredwyr rhwydwaith, â gweithgynhyrchwyr cerbydau, â gweithredwyr cerbydau—ar hyn o bryd mae'r gost o anfon cerbydau o un wlad Ewropeaidd i'r Weriniaeth Tsiec neu'r Almaen yn sylweddol iawn, a gall gostio degau o filoedd o bunnoedd dim ond i anfon trên, cerbyd, o Sbaen i'r Almaen. Gyda'r cyfle, er enghraifft, i CAF, a leolir yng Nghasnewydd, i ddefnyddio cyfleuster nid nepell i lawr y rheilffordd i'r gorllewin, gallem weld manteision economaidd enfawr i'r gweithgynhyrchwyr arbennig hynny hefyd gan y bydd yr arbedion iddyn nhw yn sylweddol yn wir. A dyna pam ein bod ni'n credu, yn y farchnad Brydeinig yn unig, fod cefnogaeth enfawr a digonol i'r prosiect fynd yn ei flaen, ond byddai'r hwb ychwanegol o allu denu gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr o bob cwr o Ewrop yn rhywbeth, rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn ei groesawu.
Yn y dyfodol, o ran perchenogaeth yr ased, wel, bydd hynny'n cael ei bennu drwy'r cytundeb cyd-fenter law yn llaw â'r rhai a fydd yn talu amdano, a'r rhai a fydd yn talu amdano fydd gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr y diwydiant eu hunain.