Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 21 Mai 2019.
Yn y lle cyntaf, byddwn yn sicrhau gwelliannau ar unwaith. Cyn y diwygio a fydd yn fwy pellgyrhaeddol, byddwn yn canolbwyntio ar greu newid mewn diwylliant a gwneud i'n prosesau presennol weithio'n fwy effeithiol i sicrhau diogelwch preswylwyr. Byddwn yn cyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth bresennol i gefnogi hyn lle bo angen. Rwyf eisoes wedi nodi fy mod yn bwriadu cyflwyno gwelliannau i'r rheoliadau adeiladu er mwyn gwahardd defnyddio deunydd gorchuddio llosgadwy erbyn diwedd yr haf. Rwyf hefyd yn awyddus, fel y dywedais fis diwethaf, i hybu ôl-osod systemau chwistrellu dŵr. Gwyddom fod systemau o'r fath ymhlith y mesurau mwyaf effeithiol i atal marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod eu presenoldeb yn lleihau'r gost a'r difrod a achosir gan dân yn sylweddol. Felly, nid yn unig bod rheidrwydd moesol ar berchnogion adeiladau i osod chwistrellwyr, ond mae rhesymau masnachol cadarn dros wneud hynny hefyd.
Byddwn yn sicrhau bod y neges hon yn cael ei chlywed yn glir yn ystod y misoedd nesaf. Er mwyn ystyried datblygiadau yn y farchnad, byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer systemau chwistrellu niwl dŵr. Byddwn hefyd yn ail-lansio'r 'Canllaw i Ddeiliaid Tai ar Systemau Chwistrellu', a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2015, yn yr hydref. Ar y cyd â'r gwasanaeth tân ac achub, byddwn yn bwrw ymlaen ag ymgyrch wedi'i thargedu i godi ymwybyddiaeth o'r canllawiau hyn ac i annog ôl-osod systemau chwistrellu mewn adeiladau uchel iawn yn y sector preifat. Ar yr un pryd, byddwn hefyd yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddatblygu'r cynnydd cadarn a wnaed hyd yn hyn o ran gosod chwistrellwyr mewn adeiladau uchel iawn yn y sector cymdeithasol.
Byddaf hefyd yn cyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth bresennol i wneud awdurdodau tân ac achub yn gyrff ymgynghori statudol yn y broses gynllunio. Mae hwn yn gam pwysig o ran rheoli newidiadau mewn lefelau risg tân lleol. Gan fod pob cais cynllunio sylweddol yn codi materion fel mynediad ar gyfer peiriannau tân, bydd ein cynigion yn mynd llawer ymhellach nag adeiladau uchel iawn, a bwriadaf ymgynghori ar y manylion yn ddiweddarach eleni. Bydd y newid uchelgeisiol hwn yn sefydlu'r egwyddor o gydweithio rheoleiddiol rhwng awdurdodau lleol a'r gwasanaeth tân ac achub, a fydd yn nodweddu'r system newydd yng Nghymru.
Yn ogystal â'r newidiadau hyn, byddwn yn datblygu pecyn uchelgeisiol o ddiwygiadau rheoleiddiol ar gyfer y dyfodol. Mae fy swyddogion yn sefydlu dwy ffrwd waith, a fydd yn cynnwys aelodau o'r grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau yn ogystal ag ymarferwyr eraill o Gymru a thu hwnt. Bydd un ffrwd waith yn ystyried y cyfnod dylunio ac adeiladu. Un o'r tasgau allweddol sy'n wynebu'r ffrwd waith hon fydd mireinio ac arbrofi gyda phroses rheoli adeiladu hollol newydd ar gyfer adeiladau risg uwch. Bydd hyn yn adeiladu ar yr egwyddorion a amlinellir yng nghynllun y grŵp arbenigol. Mae hyn yn cynnwys yr angen am drefn arolygu fwy cadarn, pwyntiau atal, a rhan ganolog y gwasanaeth tân ac achub mewn cyfnodau allweddol. Bydd y ffrwd waith hefyd yn cyfrannu at gynigion deddfwriaethol cynhwysfawr i ddiffinio swyddogaethau a chyfrifoldebau deiliaid dyletswydd i unioni'r diffyg atebolrwydd clir am ganlyniadau diogelwch yn y system bresennol. Mae'r rhain yn debygol o adlewyrchu gofynion Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015, sydd wedi trawsnewid iechyd a diogelwch yn y diwydiant adeiladu.
Bydd y ffrwd waith arall yn canolbwyntio ar reoli a rheoleiddio diogelwch tân mewn adeiladau risg uwch pan fydd pobl ynddynt. Unwaith eto, bydd y ffrwd waith hon yn llunio swyddogaethau clir i ddeiliaid dyletswydd. Byddai hefyd yn ystyried ffurf deddfwriaeth i ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân presennol, a gynlluniwyd yn bennaf ar gyfer gweithleoedd ac nad yw'n diogelu anheddau preifat yn ddigonol. O gofio y bydd hyn yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol, mae'n annhebygol y byddwn yn gallu cwblhau'r gwaith hwn yn ystod y tymor Cynulliad presennol. Lle bo'n bosib, fodd bynnag, byddwn yn defnyddio ein pwerau presennol i wneud rheoliadau o dan y Gorchymyn a chyhoeddi canllawiau fel mesurau dros dro. Un o gryfderau dull gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yn hyn yw ein gallu i gysylltu gwahanol gyfnodau o gylch bywyd yr adeilad gyda'i gilydd. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad cynnar i ddiwygio neu ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân fel elfen allweddol o'n pecyn diwygio.
Bydd ffrwd waith y cyfnod meddiant hefyd yn ystyried sut i wella swyddogaeth preswylwyr drwy sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u bod yn derbyn gwybodaeth glir am ddiogelwch tân yn eu hadeilad. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn gyda Chartrefi Cymunedol Cymru mewn partneriaeth â'u cymdeithasau tai sy'n aelodau. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid yn y sectorau cymdeithasol a phreifat i sicrhau bod yr arferion gorau a nodwyd yn cael eu hymgorffori mor eang â phosib.
Byddwn hefyd yn mynd i'r afael â materion o arwyddocâd cyffredinol sy'n cynnwys holl gylch bywyd yr adeilad. Un agwedd hanfodol ar gyfnod gwaith cychwynnol Llywodraeth Cymru fydd diffinio'r ystod o adeiladau o fewn y cwmpas diwygio. Mae'r grŵp arbenigol wedi ei gwneud hi'n glir nad yw'r trothwy uchder o 30m a gynigiwyd gan y Fonesig Judith Hackitt yn ei hadolygiad yn ddigon manwl yn y cyd-destun Cymreig. Cytunaf y gallwn ni ac y dylem ni fynd ymhellach o ran dod ag adeiladau ychwanegol o fewn y cwmpas. Am y rheswm hwn, byddwn yn ystyried cynigion arfaethedig Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân mewn cysylltiad â matrics risg adeiladu. Byddwn hefyd yn comisiynu ein hymchwil ein hunain i'r ystod lawn o oblygiadau pob un o'r dewisiadau arfaethedig a gyflwynwyd gan y grŵp arbenigol yn ei gynllun. Roedd y rhain yn cynnwys trothwyon uchder naill ai o 18m neu 11m, yn ogystal â'r posibilrwydd o gynnwys adeiladau ychwanegol ar sail ffactorau risg yn hytrach nag uchder.
Mae hi yn bwysig ein bod yn gwneud penderfyniad ystyriol sy'n cydbwyso cymesuredd â'r angen i sicrhau diogelwch preswylwyr. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn gyflym a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pendant ar gynnig ar gyfer adeiladau a fydd o fewn y cwmpas yn yr hydref. Rwy'n glir, fodd bynnag, na fydd y trothwy yn uwch na 18m. Byddwn yn ymgynghori ar gwestiwn yr adeiladau o fewn y cwmpas, ynghyd ag ystod eang o gynigion manwl eraill ar gyfer diwygio, yn haf 2020. Bydd hyn gyda'r bwriad o gael deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad nesaf.
Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn uchelgeisiol ac yn bellgyrhaeddol. Bydd yn nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau diamwys ar gyfer deiliaid dyletswydd drwy gydol oes yr adeilad. Bydd yn gwneud gwiriadau diogelwch tân cadarn yn orfodol. Bydd yn sefydlu system newydd o oruchwylio a gorfodi i wrthdroi'r ras i'r gwaelod ac annog canlyniadau diogelwch gwell a fydd yn berthnasol yn ystod y gwaith dylunio, adeiladu, adnewyddu a meddiant parhaus.
Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae'n hanfodol ein bod yn cydbwyso ymdeimlad priodol o frys â'r angen i gael y pecyn diwygio cymhleth a pharhaus hwn yn hollol gywir. Bydd dull Llywodraeth Cymru o weithredu fesul cam yn sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd cywir. Ni fyddwn yn cyfaddawdu o ran cyflenwi effeithiol er mwyn atebion cyflym y byddwn yn ddiweddarach yn gweld eu bod wedi methu â sicrhau'r newid sydd ei angen. Yn ei gynllun, nododd y grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau achos clir dros newid mesurau dros dro yn gyflym a dros ddiwygio rheoleiddio uchelgeisiol yn y tymor hwy. Dyma'n union sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati er mwyn gwella diogelwch adeiladau preswyl risg uwch a'r rhai sy'n byw ynddyn nhw. Diolch.