Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 22 Mai 2019.
Ond rydym hefyd yn cytuno bod angen rhoi diwedd ar anghydraddoldeb rhanbarthol ledled Cymru. Yn ei dro bydd hynny'n hybu safonau byw a gwasanaethau iechyd, addysg a llywodraeth leol wedi’u cynllunio a'u cyllido’n briodol ym mhob rhan o Gymru.
Yr wythnos diwethaf, Lywydd, roeddem yn dathlu 20 mlynedd o ddatganoli, o’n Senedd ni yma. Y bwriad oedd i ddathanoli wella perfformiad economaidd Cymru yn sylweddol, ond yn ôl unrhyw fesur mae'r data economaidd yn dangos heb amheuaeth fod economi Cymru wedi tangyflawni dros y ddau ddegawd diwethaf, ac wedi methu'n llwyr â dal i fyny ag economi'r DU yn gyffredinol. Wedi dweud hynny, mae cynllun gweithredu economaidd diweddaraf Llywodraeth Cymru yn symud o ddull aflwyddiannus o weithredu, ac mae hynny i'w groesawu yn fy marn i, ac efallai y bydd y Dirprwy Weinidog a'r meinciau Llafur yn synnu clywed yr hyn rwyf am ei ddweud nesaf, ond mae llawer i'w ganmol, rwy'n meddwl, ynglŷn â’r cynllun hwn. Felly ni fwriedir i fy sylwadau agoriadol fod yn ymosodiad gwleidyddol ar y Llywodraeth y prynhawn yma, ond rwy'n credu'n wirioneddol nad oes digon o fanylion yn y cynllun, a dyna pam y galwn am fwy o uchelgais i wella economi Cymru er mwyn sicrhau gwell bargen ar gyfer busnesau Cymru, eu gweithwyr a threthdalwyr y wlad. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno ein bod am weld gwir botensial datganoli yn cael ei wireddu yng Nghymru, ac mae angen i ni gyflawni hynny drwy raglen bolisi uchelgeisiol er mwyn gadael lle’r ydym ar hyn o bryd, ar waelod tablau cynghrair y DU.
Nawr, o'r tri chynllun economaidd a lansiwyd ers datganoli, nid oes un ohonynt wedi llwyddo i wella enillion neu allbwn economaidd, ac economi Cymru yw'r economi wannaf yn y DU o hyd. Hi sydd â'r lefelau cynhyrchiant isaf ar draws y DU ac wrth gwrs mae'r pecynnau cyflog disymud yn ein dal yn ôl. Ac o ran y pecynnau cyflog disymud, mae'n siomedig pan fyddwn yn cael y trydariadau hynny, fel y rhestrwyd yn y trydariad ar fasnach a buddsoddi—‘Dewch i Gymru, mae gennym gostau cyflogau 30 y cant yn is na rhannau eraill o’r DU'—mae angen i'r math hwn o ddiwylliant ddod i ben yn y Llywodraeth a'r gwasanaeth sifil. Nid dyma'r dull cywir o weithredu.
Nawr mae strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor, ac er y buaswn i, a ninnau ar y meinciau hyn, yn croesawu gwledydd o bob rhan o'r byd sy'n buddsoddi yng Nghymru, dengys y data economaidd crai inni nad yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn. Hoffem weld swyddfeydd tramor newydd a chenhadon masnach ymroddedig i hybu masnach Cymru a chysylltu economi gref yng Nghymru â'r byd. Nawr, wrth gwrs, mae gennym strategaeth ddiwydiannol ar gyfer y DU, ac rwy'n credu'n gryf y bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod gennym swyddi a chyfleoedd ar draws Cymru gyfan, ac mae hyn yn helpu'r wlad gyfan i baratoi ar gyfer y newid economaidd drwy fuddsoddi yn ein seilwaith, ysgogi gwariant ymchwil a hybu sgiliau ein gweithlu. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi—ei bod yn bwysig fod polisi Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Mae hi wedi bod yn anodd iawn dod o hyd i ddata ar berfformiad y cynllun gweithredu economaidd. Cyflwynais gwestiynau ysgrifenedig ar ddiwedd y llynedd, ond ni chefais atebion sylweddol i'r cwestiynau hynny. Ychydig iawn o ddatganiadau a gawsom, os o gwbl, ar berfformiad mewn perthynas â’r cynllun gweithredu economaidd.
Mae diwygio caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig hefyd yn elfen bwysig o gynllun gweithredu economaidd effeithiol yng Nghymru. Er enghraifft, pan edrychwn ar y ffordd yr ymdriniwyd â chaffael cyhoeddus yng Nghymru yn 2018, aeth 22 y cant—22 y cant—o wariant caffael gan Lywodraeth Cymru ar gontractau adeiladu, gwerth dros £0.5 miliwn, i gwmnïau y tu allan i Cymru. Felly dyma gyfle a gollwyd i fuddsoddi yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, a chyfleoedd i gryfhau economi Cymru ymhellach o ganlyniad i hynny.
Nesaf, mae economi gref, flaengar ac amrywiol yn cael ei hadeiladu gan weithlu cryf, felly rwy’n sicr yn credu bod angen canolbwyntio ar ddysgu oedolion, uwchsgilio ac ailsgilio, ac mae hyn yn rhoi'r gallu i'r gweithlu nid yn unig i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd yn eu sector, ond hefyd y manteision ychwanegol anuniongyrchol o wella'r cyfalaf cymdeithasol ac integreiddio, gan integreiddio ein hymddygiad iechyd, ein sgiliau a'n canlyniadau cyflogaeth. Felly, mae'n hanfodol, rwy'n credu, fod oedolion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn dysgu ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, boed hynny drwy ddysgu seiliedig ar waith neu astudio personol.
Mae gwella ein seilwaith hefyd yn bwysig. Mae'n hanfodol gweld canlyniadau hynny i wella ein heconomi. Rwy’n credu ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru droi ei sylw at ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth cadarn wedi'i ddiogelu at y dyfodol. Mae prosiectau seilwaith da wedi’u cyflwyno a'u darparu ar hyd yr amser ledled Cymru, ond mae gennym ormod o brosiectau trafnidiaeth o hyd sy'n cael eu darparu'n hwyr a thros y gyllideb. Ac mae’r oedi yn y gwaith o gyflawni cynlluniau mawr, fel ffordd liniaru'r M4—dyna broblem i'n heconomi. Heb fynd i'r afael â'r tagfeydd ar y rhan honno o'r draffordd, bydd economi Cymru yn parhau i gael ei llyffetheirio gan lefelau cronig o’r tagfeydd a'r oedi y mae'n ei greu.
Yn olaf, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn cryfhau cytundebau twf y wlad. Mae gennym gytundebau twf gwirioneddol dda drwy’r wlad gyda ffocws rhanbarthol, partneriaeth dda rhwng awdurdodau lleol hefyd. Mae hwn yn faes lle credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud pethau'n iawn, yn ogystal â Llywodraeth y DU, gan sicrhau bod y cytundebau twf yn cael eu mesur a bod cynigion yn dod o’r gwaelod i fyny—nad yw Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru yn gorfodi prosiectau ar ranbarthau Cymru, ond bod y prosiectau hyn yn dod o'r union gymunedau y maent yn deillio ohonynt.
Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gael hynny’n iawn, a chredaf ein bod yn edrych ar—. Yn amlwg, mae yna fargen bae Abertawe hefyd, ac efallai y bydd cyd-Aelodau eraill yn siarad amdani yn nes ymlaen, a cheir adolygiadau diweddar gan y Llywodraeth ar hynny. Felly, rwy'n credu bod angen i ni weithredu canlyniadau'r adolygiadau hynny. Mae gennym gytundeb twf Caerdydd, mae gennym gytundeb twf canolbarth Cymru, sydd ar ei ffordd hefyd, a bargen twf gogledd Cymru wrth gwrs, y disgwylir iddi greu mwy na 5,000 o swyddi newydd a dyblu gwerth economi gogledd Cymru bron erbyn 2035.
Felly, i gloi, Lywydd, rydym ni ar yr ochr hon yn edrych ar y cynllun gweithredu economaidd ac yn gweld y rhinweddau ynddo, ond mae angen mwy o weithredu, mae angen mwy o fanylion yn y cynllun hwnnw, ac mae angen inni weld perfformiad a gweld beth yw'r perfformiad wrth i ni symud ymlaen hefyd. Edrychaf ymlaen yn fawr at y ddadl y prynhawn yma ac at gyfraniadau’r Aelodau.