Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch, Llywydd. Mae hon yn un o'r dadleuon pwysig iawn yna i'w cael wrth inni nodi 20 mlynedd ers sefydlu datganoli. Dwi'n cofio gwneud sylwadau fel newyddiadurwr ifanc 20 mlynedd yn ôl mai un o'r mesurau ynglŷn â llwyddiant datganoli, llwyddiant Llywodraeth Cymru maes o law, fyddai ei effaith o ar yr economi. A dwi'n meddwl, yn gyffredinol, wrth edrych ar le mae Cymru arni o fewn tablau economaidd, nid yn unig yr ynysoedd hyn ond y tu hwnt i'r ynysoedd yma, allwn ni ddim dweud bod Cymru yn agos at fod yn cyrraedd ei photensial eto.
Does yna ddim diffyg uchelgais wedi cael ei lleisio gen i a'm rhagflaenwyr, ac ar brydiau, o bosib, gan y Llywodraeth hyd yn oed, ond o ran gweithredu, dydyn ni ddim yn dod yn agos at y math o gamau dŷn ni'n gwybod sydd angen cael eu cymryd er mwyn mynd â Chymru yn ei blaen tuag at y dyfodol yna dwi'n sicr yn gwybod y gall hi ei chael yn economaidd fel gwlad a chenedl ifanc, lewyrchus.
Mae yna lawer o'r hyn sydd yng nghynnig y Ceidwadwyr dwi a fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru yn sicr yn cytuno â nhw, ond dŷn ni wedi cyflwyno cyfres o welliannau er mwyn tynnu sylw at ambell i faes dŷn ni'n meddwl oedd yn bwysig iawn eu tanlinellu nhw y prynhawn yma. Yng ngwelliant 2, dŷn ni yn gwneud yr achos, fel dwi wedi gwneud o'r blaen, ynglŷn â chael yr uwchgynhadledd economaidd yma. Mi ydyn ni ar bwynt, dwi'n meddwl, lle mae angen cael y cyfle i wyntyllu syniadau ar gyfer dyfodol economaidd Cymru yn y ffyrdd mwyaf deinamig a mwyaf cyhoeddus posib. Mae yna gymaint o grwpiau ymgynghori wedi cael eu sefydlu gan y Llywodraeth yma dros y blynyddoedd, a chymaint o bobl wedi bod yn cael eu tynnu i mewn i weithio ar weithgor yn fan hyn a gweithgor yn y fan yna, ond dwi'n meddwl bod yna bwynt wedi dod lle gallwn ni gael budd gwirioneddol yn genedlaethol o gael ffocws drwy'r math o uwchgynhadledd dŷn ni wedi sôn amdani, ar ddenu y syniadau gorau a rhannu y syniadau yna efo pobl Cymru er mwyn iddynt hwythau gael cyfrannu at y drafodaeth yma. Felly, dwi yn gobeithio y gallaf i gael cefnogaeth y Cynulliad yn hynny o beth.
Ac mae'r gwelliant hwnnw hefyd yn cyfeirio at y polisi yma dŷn ni wedi arddel ers tro yn fan hyn, bod rhaid inni gael deddfwriaeth yn ein tyb ni sydd yn gyrru'r math o degwch a chyfartaledd economaidd ar draws Cymru y mae pobl Cymru wirioneddol yn mynnu ei gael. Dwi'n gwybod fel Aelod o'r gogledd fod yna deimladau bod y gogledd o bosib ddim yn cael ei siâr, a dwi'n siŵr bod yna deimladau yn y gorllewin, a hyd yn oed mewn ardaloedd yn agos at y brifddinas, dwi'n meddwl, fod llewyrch, lle mae o, ddim yn cael ei rannu yn deg. Dydw i ddim yn un sydd eisiau rhannu Cymru; eisiau ein huno ni ydw i, a dangos ein bod ni'n gallu gweithredu fel un genedl.
Dwi'n meddwl y byddai'r Bil rhanbarthol yma dŷn ni yn ei argymell yn fodd o sicrhau, yn yr un ffordd ag y mae deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol yn ei wneud, a’n gorfodi'r Llywodraeth i feddwl mewn ffordd arbennig. Byddai Bil rhanbarthol fel hyn yn gorfodi'r Llywodraeth, ym mhopeth maen nhw’n gwneud, i roi ystyriaeth i a ydy'r penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud yn wirioneddol yn mynd i arwain at weithredu sy'n effeithio ar ac yn elwa pobl ym mhle bynnag y maen nhw yng Nghymru, fel ein bod ni'n gallu tynnu’r math o honiadau yma a phryderon bod yna or-ganolbwyntio llewyrch mewn ychydig o ardaloedd.
Mi wnaf i droi at y gwelliannau, wedyn, ynglŷn â Brexit. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn inni nodi hyn. Does dim angen imi ymhelaethu llawer ar y gwelliant, sy'n dweud ein bod ni'n bryderus ynglŷn ag effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi eisiau i bobl feddwl am y cwestiwn Ewropeaidd mewn cyd-destun Cymreig. Roeddwn i dros y dyddiau diwethaf yn trafod efo gwleidyddion o Gibraltar. Mi wnaeth Gibraltar ystyried Brexit yng nghyd-destun Gibraltar—‘Ydy hwn yn dda i ni?’ Ac mi wnaeth 96 y cant o'r boblogaeth, wrth gwrs, wrthod Brexit oherwydd ei fod o'n ddrwg i Gibraltar. Mae Brexit yn ddrwg i Gymru, a dwi eisiau i bobl Cymru feddwl yn y ffordd honno, achos mae beth sy'n ddrwg i Gymru fel cenedl yn golygu, wrth gwrs, rhywbeth sy'n ddrwg i'n cymunedau ni, i deuluoedd, i unigolion ar hyd y lled y wlad.
Gair yn sydyn am y shared prosperity fund. Dwi'n meddwl bod Llywodraeth Prydain wedi addo gorffen ymgynghori ar yr arian yma a fyddai'n dod yn lle arian Ewropeaidd erbyn mis Rhagfyr y llynedd. Does yna ddim ymgynghori wedi dechrau mewn difri ar hyn, sydd eto yn un o'r pethau yna sy'n codi gymaint o amheuon, yn fy meddwl i, ynglŷn â'r cwestiwn o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mi wnaf i grynhoi fel hyn: dwi â hyder ym mhotensial Cymru. Dydyn ni ddim yn cyrraedd y potensial hwnnw. Dydyn ni ddim eto ar y llwybr sy'n mynd i'n galluogi ni i gyrraedd y potensial hwnnw. Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n gallu dechrau hedfan fel gwlad go iawn tan y byddwn ni yn wlad annibynnol. Ond ar ba bynnag ochr i'r ddadl ydych chi, a ydych chi wedi cael eich argyhoeddi ai peidio ynglŷn â hynny, mi ddylem ni i gyd allu bod yn gytûn y dylem ni fod yn gwneud llawer mwy a gosod y bar yn llawer uwch o ran symud i le lle mae gennym ni seiliau mwy cadarn yn eu lle ar gyfer y dydd hwnnw pan fydd Cymru yn cael ei rhyddid.