Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 22 Mai 2019.
Mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedais oedd fy mod yn credu y byddai'r Aelodau a oedd yma 20 mlynedd yn ôl wedi derbyn rhai o'r cyflawniadau hyn fel cyflawniadau rhesymol o ystyried ein man cychwyn o 100 mlynedd o ddirywiad economaidd. Nid oes dadl ynglŷn â’r heriau a fynegwyd gan lawer o’r Aelodau drwy'r ddadl. Mae Cymru’n parhau i fod yn economi wael. Mae gennym nifer o heriau. Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn galonnog yn ei gylch.
Ond a gaf fi dynnu sylw'r Ceidwadwyr at y ffaith nad yw'r ysgogiadau macroeconomaidd ar gyfer newid economaidd i’w cael yn y fan hon? Mae gennym rai pwerau dros ddatblygu economaidd, ond nid yw'r pwerau go iawn i gael gwared ar dlodi, y pwerau go iawn i wella cynhyrchiant, y pwerau go iawn i godi’r cynnyrch domestig gros yma, maent yn San Steffan. Mae Llywodraeth y DU wedi gorfodi naw mlynedd o gyni arnom ni, ac mae'n ffaith pe bai ein cyllideb wedi cynyddu yn unol ag economi'r DU ers 2010, byddai gennym £4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi bellach—£4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi. Felly, credaf y byddai'n dangos ychydig o ostyngeiddrwydd pe bai'r blaid ar y meinciau gyferbyn yn cydnabod yr heriau a’n hwynebodd, yn enwedig methiant Llywodraeth y DU, sydd wedi'r cyfan yn gyfrifol am economi'r DU yn ei chyfanrwydd, i gyflawni'r prosiectau mawr a addawyd ganddynt: diddymu trydaneiddio rheilffyrdd—nid ydym yn mynd i adael i chi anghofio hynny'n gyflym; y methiant i gyflawni’r morlynnoedd llanw, er gwaethaf consensws yn y Siambr hon; atal prosiect Wylfa. Nid yw’r buddsoddiad a addawyd gan Lywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros bob rhan o'r DU wedi cael ei wireddu.
Er gwaethaf hyn, rydym wedi gwneud nifer o fentrau i geisio symud y deial ac fel y dywedais eisoes, cafwyd llwyddiannau go iawn, ond erys heriau gwirioneddol. Soniais am y ffaith bod mwy o bobl bellach mewn cyflogaeth yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ond mae'n dal yn wir fod 40 y cant o bobl mewn gwaith yn byw mewn tlodi. Nid yw dyfynnu ffigurau lefel uchel yn dweud wrthym beth yw gwir gymhlethdod y darlun a'r heriau sy'n ein hwynebu. Felly, mae angen inni gael dull newydd o weithredu sy'n edrych ar ansawdd gwaith, gwaith teg, ac sy’n edrych hefyd ar sylfeini ein heconomi, yn enwedig yn y rhannau o Gymru rwy'n eu cynrychioli ac y mae llawer o fy nghyd-Aelodau yma yn eu cynrychioli, ardaloedd nad ydynt wedi mwynhau manteision masnach rydd a globaleiddio ac sydd wedi teimlo'r boen sy’n deillio o’r pethau hyn, ac fe adlewyrchwyd hynny yn fy marn i bron i dair blynedd yn ôl bellach yng nghanlyniad y refferendwm ar Brexit.
Yn hytrach na mynd ati’n obsesiynol, fel y mae Plaid Geidwadol San Steffan yn ei wneud—a’r prynhawn yma, darllenais ar Twitter eu bod ar fin cael gwared ar eu Prif Weinidog. Byddai’n llawer gwell iddynt fynd i'r afael ag achosion Brexit, pam roedd pobl ledled Cymru'n teimlo nad oedd y system economaidd yn gweithio iddynt hwy, a dyna mae’r Llywodraeth hon yn ceisio'i wneud. Mae'n ceisio cyflawni canlyniad y refferendwm, ond ochr yn ochr â hynny, mae’n ceisio mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol a arweiniodd at wneud i gymaint o bobl deimlo nad oedd ganddynt gyfran yn yr economi.
A dyna'n union y ceisiwn ei wneud drwy'r economi sylfaenol—gweithio ar draws ystod o feysydd. Roedd yn ddrwg gennyf glywed David Rowlands yn diystyru'r buddsoddiad yn y sector cyhoeddus a welsom yn yr 20 mlynedd ddiwethaf fel swyddi sy’n annheilwng rywsut, ond mae angen inni ddefnyddio'r rhain oherwydd, mewn sawl rhan o Gymru, maent yn dal i fod yn sefydliadau angori sydd bob amser yn mynd i fod yno oherwydd bod y bobl yn y cymunedau hynny eu hangen yno, a dylem ganolbwyntio ar sut i sicrhau’r gwerth mwyaf posibl o'r swyddi a'r sectorau hyn yn y rhannau hynny o Gymru. Dyna'n union a wnawn, gan weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i gymhwyso'r gwersi y maent wedi'u dysgu trwy gaffael yn Preston, er enghraifft, ond hefyd drwy arbrofi. Rydym wedi lansio ein cronfa arbrofi economi sylfaenol £3 miliwn, y gobeithiaf y bydd dinas-ranbarth Caerdydd yn ychwanegu ati gyda'u gwaith eu hunain ar yr economi sylfaenol hefyd. Dyma faes lle gallwn dreialu pethau sy'n gwella ansawdd cyflogaeth ond sydd hefyd yn gwella'r cyfoeth mewn ardal fel na fydd yn gollwng ohoni.
Ni allaf nodi’r holl bwyntiau a godwyd yn y ddadl y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, ond hoffwn ddweud bod ein ffocws ar dwf cynhwysol ar flaen ein meddyliau. Rhestrodd Huw Irranca -Davies amrywiaeth o bethau yr hoffai eu gweld, ac ni chaf unrhyw anhawster i gytuno ag unrhyw un ohonynt. Ar ei bwynt ynglŷn â datblygu busnesau bach a microfusnesau yn y Cymoedd yn benodol, rydym ar hyn o bryd yn treialu dull newydd o weithredu lle rydym yn gweithio gyda'r busnesau sydd wedi'u gwreiddio yn yr ardaloedd hynny i helpu ei gilydd. Rydym yn treialu rhaglen fentora busnes rhwng cymheiriaid i brif weithredwyr ac arweinwyr rhai o'r busnesau hynny yn y Cymoedd i helpu ei gilydd ac, os yw honno'n llwyddiannus, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gallwn ei gyflwyno.
Rwy’n credu fy mod am ei gadael hi yn y fan honno, Ddirprwy Lywydd, o ystyried yr amser. Afraid dweud fy mod yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi gwelliant y Llywodraeth, a fi yw'r cyntaf i gyfaddef bod llawer mwy y gallwn ei wneud. Nid ydym yn brin o uchelgais, ond mae'r amgylchiadau sy'n cael eu gorfodi arnom o San Steffan, lle mae Brexit caled yn dal i edrych yn fwy tebygol na dim arall, yn mynd i wneud y dasg honno'n anos.