Perchnogion Ail Gartrefi

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:43, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, hoffwn ychwanegu trydydd awgrym, heb anghytuno â'r ddau gyntaf. Y broblem yw bod gennym gynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol, ac ni chredaf y dylai tai fod yn rhan o gynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol. Felly, pam na all Llywodraeth Cymru eithrio tai rhag rhyddhad ardrethi a gwrthod derbyn tai fel busnesau, ac eithrio mewn pentrefi gwyliau dynodedig, fel y byddai'n rhaid iddynt dalu'r dreth gyngor ar yr adeiladau hynny? Mae'r ffaith bod pobl yn ailddynodi eu hail gartrefi yn gartrefi gwyliau heb dalu unrhyw dreth gyngor yn rhywbeth sy'n cythruddo'r mwyafrif helaeth o bobl yn yr ystafell hon heddiw.