Perchnogion Ail Gartrefi

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:38, 22 Mai 2019

Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod naw o gynghorau Cymru wedi awgrymu datrysiad syml i'r broblem gynyddol o ail gartrefi yn cael eu heithrio rhag talu unrhyw fath o drethi o gwbl i'r pwrs cyhoeddus. Maen nhw'n dadlau fod gan Lywodraeth Cymru'r grym i addasu adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 drwy ddeddfwriaeth eilradd. Yn sylfaenol, mae angen cael gwared ar faen prawf presennol, sy'n cael ei nodi yn adran 66, sy'n ymwneud ag unedau hunanddarpar, gan ei ddisodli efo egwyddor fod pob eiddo sydd wedi ei ddefnyddio fel eiddo domestig yn aros yn eiddo domestig waeth beth ydy ei ddefnydd. Ydych chi'n cytuno bod angen addasu'r Ddeddf yma, ac a fydd eich Llywodraeth chi yn bwrw ymlaen yn ddiymdroi i wneud hynny?