Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 22 Mai 2019.
Mae Gweinidogion unigol yn gyfrifol am fonitro a rheoli cyllidebau o fewn eu portffolios eu hunain, ond rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Aelodau o’r Cabinet drwy gydol y flwyddyn ac yn derbyn adroddiadau ariannol misol. Caiff y sefyllfa gyllidebol ei monitro'n fisol hefyd gan bwyllgor gweithredol Llywodraeth Cymru.