Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Mai 2019.
Un o'r rhesymau pam na chaiff arian ei ddyrannu i wahanol awdurdodau lleol yn aml, wrth gwrs, yw diffyg ymagwedd ragweithiol mewn ceisiadau a gyflwynir gan yr awdurdodau lleol hynny pan fo arian Llywodraeth ar gael i'w ddosbarthu. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn gwneud ceisiadau am gyllid pan fydd yr arian hwn ar gael? Pan fydd Llywodraeth Cymru yn clustnodi arian, gwn nad yw’n cael ei ddefnyddio weithiau am na wnaed ceisiadau digonol. Felly, beth rydych yn ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau, lle mae arian ar gael, eich bod yn dyrannu cymaint ohono â phosibl?