Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 22 Mai 2019.
Wel, diolch yn fawr, Mike, unwaith eto, am ddyfalbarhau a defnyddio'r Gymraeg yn y Siambr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n gweld bod mwy o ddarpariaeth o ran cael pobl i ddechrau eu haddysg nhw yn ifanc iawn, a dyna pam rŷn ni wedi rhoi £1 miliwn i ysgolion meithrin trwy Gymru i gyd. Wrth gwrs, rŷn ni'n cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, yn cynnwys Abertawe—a gydag ardaloedd eraill—i ddatblygu 14 cylch meithrin newydd. Mae yna sefyllfa arbennig yn Abertawe achos, yn draddodiadol, y cyngor sydd wedi bod yn darparu addysg meithrin yn yr ysgolion, ond rŷn ni yn gobeithio bydd y cynnig childcare newydd yn caniatáu i ni weld mwy o gynnydd yn y ffaith bydd mwy o ddarpariaeth o ran Ti a Fi. Dyna dwi'n meddwl yw'r llwybr i sicrhau bod pobl yn mynd ymlaen i wedyn ehangu a sicrhau eu bod nhw yn ymwneud ag addysg Gymraeg trwy yr ysgolion meithrin.