Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch am hynny. Rwy'n fodlon iawn i gytuno'n ffurfiol y dylem gyfarfod i drafod y mater hwn yn benodol, ond rwy'n falch o ddweud, ymhlith y prif chwaraeon rydym yn eu hyrwyddo, pêl-rwyd, gweithgaredd a gyflawnir yn bennaf, ond nid yn gyfan gwbl, gan ferched a menywod, yw'r bedwaredd brif gamp rydym yn ei hariannu. Ac felly, credaf ei bod yn hanfodol ein bod bob amser yn darparu ar gyfer cydraddoldeb rhywiol hyd eithaf ein gallu mewn perthynas â chyfranogiad mewn chwaraeon. Mae hynny'n rhannol drwy annog rygbi menywod a phêl-droed menywod, ond hefyd drwy annog cyfleoedd ar wahân, yn wir, i bobl gymryd rhan ar adeg sy'n gyfleus ac yn addas ac yn dderbyniol iddynt, a byddwn yn cael y drafodaeth hon, ac yn ddiau, byddwn yn adrodd yn ôl i chi.