Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn, Jayne. Mae sicrhau bod ein cymunedau'n fwy egnïol yn gorfforol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac yn wir, mae'n gyfrifoldeb arnaf fel hyrwyddwr gweithgarwch corfforol ar ran Llywodraeth Cymru. Y llynedd, drwy Chwaraeon Cymru, buddsoddwyd dros £10.9 miliwn gennym mewn awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn cefnogi datblygiad chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden egnïol a helpu i ddiwallu anghenion lleol. Edrychaf ymlaen at ymuno â chi ddydd Sadwrn mewn lleoliad pwysig iawn, a phob dymuniad da i glwb pêl-droed Casnewydd.