Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 22 Mai 2019.
Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn ddiogel wrth ddod i ystad y Cynulliad. Rhan hanfodol o wireddu'r ymrwymiad yma yw cynnal adolygiadau parhaus o'r gweithdrefnau diogelwch i sicrhau eu bod yn ein galluogi i gael cydbwysedd rhwng ein dymuniad i groesawu'r cyhoedd ar yr ystad a'n dyletswydd i gadw pawb yn ddiogel a sicrhau y gall busnes y Cynulliad barhau heb ymyrraeth.