Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 22 Mai 2019.
Oes, yn sicr. Os caf fi ailadrodd, lle ceir protest, mae’r polisi presennol yn datgan mai chwech o bobl o'r brotest honno sy’n cael dod i mewn i’r Cynulliad, naill ai i siarad â phwy bynnag y maent angen siarad â hwy neu i fynychu unrhyw ddadl yma. Mae'r rhif chwech yn y polisi—nid yw'n ymwneud ag Extinction Rebellion nac unrhyw grŵp protest, nac unrhyw un o unrhyw le yng Nghymru sy'n protestio ar ein grisiau. Ond yn amlwg, byddwn yn dysgu o'r profiad ac rwy'n eich gwahodd unwaith eto i wneud yn siŵr fod y Comisiynwyr yma sy'n eich cynrychioli yn gwbl ymwybodol o sut rydych eisiau i ni sicrhau’r cydbwysedd yn briodol yn y dyfodol.