Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 4 Mehefin 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y dywedais yn gynharach, Lywydd, mae cystadleuaeth rhwng ymgeiswyr i arwain y Blaid Geidwadol yn golygu bod y cyd-destun wedi newid o ran y polisi y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ei ddilyn. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, a bleidleisiodd ar 30 Ionawr mai'r unig ddewis yw rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl, yn gweld mai dyna'r sefyllfa yr ydym wedi'i chyrraedd erbyn hyn, ac rwyf i wedi ailddatgan fy nghefnogaeth i safbwynt y Cynulliad Cenedlaethol.