Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 4 Mehefin 2019.
Mae etholwyr o Garmel, Deiniolen, y Fron a Dinorwig yn mynegi pryder am safon y gwaith a wnaed o dan y cynllun Arbed roeddech chi’n sôn amdano fo bedair blynedd yn ôl: cladin allanol heb ei osod yn gywir ac felly’n achosi problemau tamprwydd, peipiau draenio diffygiol, waliau wedi cracio, render wedi cracio, plastr tu mewn i’r tŷ wedi cracio yn dilyn y gwaith, difrod wedi’i wneud i’r toeau, afliwiad o’r cladin allanol. Rydw i wedi bod yn gohebu efo’r Gweinidog amgylchedd am hyn, ond mae’r diffygion yn parhau. A wnaiff eich Llywodraeth chi ailedrych ar y sefyllfa a chynnal adroddiad annibynnol i edrych ar safon y gwaith ac, yn bwysicach, i argymell beth all y Llywodraeth ei wneud i helpu fy etholwyr i?