Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 4 Mehefin 2019.
Gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Yn y lle cyntaf, wrth gwrs, byddwn ni i gyd yn ymwybodol bod nifer fawr o ddinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd wedi methu pleidleisio yn ystod yr etholiad Ewropeaidd diweddar. Mae hynny, wrth gwrs, yn destun gofid i bob un ohonom ni. Rwy'n gwybod bod o leiaf 3,500 wedi gwneud cwyn swyddogol, ar draws y Deyrnas Unedig, eu bod nhw wedi cyrraedd yr orsaf bleidleisio ac wedi cael eu gwrthod. Bydd yna nifer mwy na hynny, wrth gwrs, ddim wedi gwneud cwyn swyddogol, a bydd yna mwy eto byddai ddim wedi derbyn y gwaith papur perthnasol cyn hyd yn oed cyrraedd y blychau pleidleisio. Dyw hi ddim yn broblem newydd—mi oedd yna broblemau yn 2014, ond wrth gwrs roedden nhw'n llawer, llawer gwaeth y tro hwn.
Camau syml a fyddai fod wedi gallu cael eu mabwysiadu fyddai cysylltu'n uniongyrchol drwy lythyr ac e-bost â'r etholwyr hynny—fel roedd rhai awdurdodau lleol wedi ei wneud, gyda llaw—ond hefyd gynnig y ffurflenni UC1 a oedd yn rhaid eu llenwi er mwyn datgan eich bod chi'n pleidleisio yma, ac nid mewn gwlad arall, nid yn unig ar-lein ond yn y gorsafoedd pleidleisio, lle y byddai modd eu llenwi nhw yn y fan a'r lle. Dau gam syml a fyddai, dwi'n credu, wedi achub camwedd eithriadol a wynebodd nifer o'r etholwyr hynny. Felly, gaf i ofyn, mewn datganiad, i'r Llywodraeth ei gwneud hi'n glir pa gyswllt rŷch chi wedi ei gael â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac ag awdurdodau lleol, er mwyn mynegi'r consýrn y mae nifer ohonom ni'n ei deimlo ynglŷn â'r anghyfiawnder yma i'r rhai a gafodd eu gwrthod o safbwynt eu pleidlais, ac er mwyn sicrhau na fydd hynny yn digwydd eto?