Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 4 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel Aelodau eraill y prynhawn yma, Prif Weinidog, hoffwn groesawu eich datganiad heddiw a chroesawu'r penderfyniad. Credaf fod llawer ohonom ni wedi bod yn bryderus iawn am y cynigion o lwybr du ers blynyddoedd lawer, am nifer o resymau gwahanol. Roedd a wnelo fy mhryderon fy hun nid yn unig â'r effeithiau amgylcheddol, a fyddai wedi bod yn eithaf erchyll ar draws gwastadeddau Gwent, ond hefyd ar yr ystod gul iawn o fuddion economaidd. Pan ddarllenais am ddadansoddiad economaidd Llywodraeth Cymru o'r llwybr du ychydig flynyddoedd yn ôl bellach, roedd hi'n amlwg iawn, iawn, fod y manteision economaidd wedi'u cyfyngu i lain gymharol gul ar draws yr M4 ei hun ac na fyddai'n dod ag unrhyw fanteision economaidd ehangach i'r rhanbarthau yn gyffredinol. Yn wir, o'm darlleniad i o'r dadansoddiad economaidd, byddai Bryste'n elwa mwy na Blaenau Gwent o'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru.
Nawr, yr hyn rwy'n awyddus i'w ddeall y prynhawn yma, Prif Weinidog, yw: wrth symud ymlaen, yn sicr mae angen inni symud ymlaen ar frys a gosod tempo cyflym iawn ar gyfer symud ymlaen gydag atebion eraill. A allwn ni sicrhau bod y manteision economaidd, y manteision economaidd ehangach, hefyd yn cael eu hystyried wrth asesu dewisiadau amgen i'r llwybr du? Mae hi yn bwysig, ac rydym ni wedi gweld hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf—gwahaniaeth gwirioneddol mewn cyfraddau gweithgarwch economaidd rhwng Cymoedd Morgannwg a Chymoedd Gwent, lle mae Cymoedd Morgannwg wedi elwa ar Gaerdydd a llwyddiant Caerdydd fel sbardun economaidd i dwf, a lle mae Cymoedd Gwent wedi gweld lefelau cyfyngedig iawn o dwf o ganlyniad i faterion yn ymwneud â seilwaith a materion eraill o amgylch Casnewydd a rhannau o goridor yr M4. Os ydym yn mynd i fuddsoddi—ac rwyf yn gobeithio y byddwn yn buddsoddi'r gyllideb lawn yn y rhanbarth hwn—yna mae'n bwysig inni gael y budd mwyaf posib i'r nifer fwyaf o bobl o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Felly, wrth wneud penderfyniadau, Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch chi a Gweinidog yr Economi yn ystyried effeithiau economaidd y buddsoddiad sy'n cael ei wneud yn y seilwaith hwn.