Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n gweld y byddwch yn cyfarfod â'ch cyd-Weinidogion addysg uwch yn yr Alban a Llywodraeth y DU cyn bo hir—efallai eich bod eisoes wedi gwneud hynny, nid wyf yn gwybod—i drafod Brexit a chanfyddiadau adolygiad Augar. Mae mater ariannu addysg ôl-16 wedi'i ddatganoli, wrth gwrs, ond mae'r systemau yn yr holl wledydd hyn yn cefnogi cystadleuaeth rhwng sefydliadau ledled y DU, a chyda 40 y cant o fyfyrwyr prifysgol o Gymru eisoes yn astudio yn Lloegr, gyda llai o draffig o lawer yn dod y ffordd arall, tybed beth oedd eich meddyliau cyntaf ynglŷn â chanfyddiadau'r adolygiad ynghylch prifysgolion a cholegau Cymru, pe baent yn cael eu rhoi ar waith yn Lloegr.