Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:47, 5 Mehefin 2019

Mi fyddai'n ddiddorol dod yn ôl at hwn ar ryw bwynt eto, gan, efallai, drafod beth yn union ydy'r diffiniad o 'cynefin', achos does yna ddim diffiniad yn y cwricwlwm drafft ohono fo, a mae hwnnw'n wendid, efallai. 

Agwedd arall o'r cwricwlwm newydd sydd yn cael dipyn o sylw ydy addysg rhyw a pherthnasoedd, ac—dwi'n dyfynnu o'r cwricwlwm drafft—bydd dysgu

'Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol' i gyd yn ddyletswyddau statudol. Felly, mae'n gwbl glir y bydd addysg rhyw a pherthnasoedd yn fandadol, sydd yn newyddion da, ac felly hefyd addysg grefyddol a chymhwysedd digidol. Ond dwi'n cael dipyn o anhawster deall rhesymeg dweud bod rhai elfennau o'r cwricwlwm newydd yn fandadol, tra'n eithrio elfennau pwysig eraill. Does yna ddim sôn yn y disgrifiad cyffredinol dwi newydd ei ddyfynnu am les a iechyd meddyliol. Mae hyn yn syndod i mi o gofio'r rhybuddion yn adroddiad 'Mind over Matter' y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc. Fedrwch chi egluro rhesymeg pam mae rhai materion yn fandadol a pham dyw materion eraill ddim yn y disgrifiad cyffredinol yna?