Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:51, 5 Mehefin 2019

Diolch, a dwi, wrth gwrs, yn croesawu cynnwys lles ac iechyd meddyliol yn greiddiol yn y cwricwlwm drafft, ond dwi dal yn petruso pam nad ydy o ddim yn y datganiad cyffredinol yna, sy'n greiddiol hefyd, tra bo addysg cydberthynas a rhywioldeb yno felly. Dwi'n stryglo i ddeall rhesymeg hynny rhyw ychydig, er yn croesawu bod yr addysg rhyw a pherthnasoedd yno. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen arbenigedd wrth ddysgu yn y maes penodol hwnnw, ac mae'r panel fu'n edrych ar hynny wedi cyflwyno nifer o argymhellion, a buaswn i'n licio jest diweddariad y prynhawn yma ar y mater o hyfforddi. Mae'r panel wedi galw am gynnwys hyfforddiant yn y maes addysg rhyw a pherthnasoedd fel llwybr penodol yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol, gan gynnwys cymhwyster lefel Meistr. Felly, faint o gynnydd sydd wedi bod ynglŷn â'r maes yna? Diolch.