Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 5 Mehefin 2019.
Wel, mae'n peri pryder nad yw'n ymddangos bod y cyrsiau blas hynny ar gael, neu o leiaf nad yw pobl yn gwybod amdanynt ac nad ydynt yn cael eu hysbysebu'n dda, pe bai rhywun yn mynd i chwilio am y cyrsiau hynny, fod cyfle ar gael, a byddaf yn codi'r materion hynny gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, sydd â'r prif gyfrifoldeb am y maes hwn.