Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 5 Mehefin 2019.
Dywed yr Aelod ei bod yn pryderu ynglŷn â phobl yn cael eu digalonni rhag ymgymryd ag addysg uwch. Yr hyn a wyddom o waith yr Athro Ian Diamond yw mai diffyg cefnogaeth gyda chostau byw ymlaen llaw yw'r rhwystr mwyaf i bobl rhag ymgymryd â chwrs prifysgol, yn enwedig os ydych yn fyfyriwr o gefndir anhraddodiadol heb rieni ag incwm sylweddol i'ch cefnogi. Dyna pam, hyd yn oed pe bai argymhellion Augar yn cael eu rhoi ar waith yn llawn yn Lloegr, y byddai gennym lefelau sylweddol uwch o grantiau nad ydynt yn ad-daladwy ar gael i israddedigion yng Nghymru.
Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau perthnasol iawn ynglŷn â pherfformiad CBAC. Mae fy swyddogion a Cymwysterau Cymru yn parhau i weithio gyda CBAC i nodi beth a ddisgwyliwn gan fwrdd arholi cenedlaethol ar gyfer ein cenedl.