Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr GIG Cymru ac undebau llafur drwy fforwm partneriaeth Cymru i gefnogi staff â phroblemau iechyd meddwl. Mae hyn yn unol ag egwyddorion craidd GIG Cymru a nod pedwarplyg 'Cymru Iachach' ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy.