Gwasanaethau Profedigaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:39, 5 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Diolch am eich cwestiwn. Mae'r astudiaeth gwmpasu ar brofedigaeth rwyf eisoes wedi ymrwymo iddi yn gwneud cynnydd. Cafwyd dros 200 o ymatebion ac mae'r cyfnod casglu data wedi'i ymestyn hyd at ddiwedd y mis hwn. Bydd adroddiad astudiaeth interim yn cael ei ddarparu i'r bwrdd gofal diwedd oes yn ddiweddarach y mis hwn, a disgwylir yr adroddiad terfynol ym mis Hydref eleni.