Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 5 Mehefin 2019.
Rwy'n fwy na pharod i edrych yn iawn ar y mater a godwyd gan yr Aelod. Rwyf wedi ymweld â Hosbis Tŷ'r Eos fy hun, ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaeth yr Aelod am eu gwaith, ac yn wir, rhannau sylweddol eraill o'r mudiad hosbisau yma yng Nghymru. Felly, rwy'n awyddus i ddeall nid yn unig y gwaith a wnânt, ond sut y mae unrhyw strategaeth—ac wrth gwrs, bydd y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi canllawiau pellach am gymorth profedigaeth hunanladdiad i ysgolion, i blant a phobl ifanc—yn defnyddio dealltwriaeth o brofiadau'r plant a'r bobl ifanc hynny i wella ein gwasanaeth ymhellach. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu, nid yn unig at yr Aelod, ond hefyd i sicrhau bod y pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd y Gweinidog addysg a minnau, wrth gwrs, yn ei fynychu ymhen ychydig wythnosau.FootnoteLink FootnoteLink