Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am eich ymateb ysgrifenedig i mi ar gwestiynau blaenorol a ofynnais ichi.
Rydych wedi nodi y byddwch yn cyfarfod y mis hwn, fis Mehefin, â'r grŵp cymorth i berthnasau cleifion dystonia yn ogystal ag Aelodau eraill yn y Siambr hon, ynghyd â chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Cafodd apwyntiadau eu canslo yn ddiweddar yn y clinig botox sydd ar gael i gleifion dystonia, a chafodd apwyntiadau 300 o gleifion eu canslo yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae 3,500 o gleifion ledled Cymru yn dioddef o'r cyflwr hwn. A fyddwch yn rhoi sylw i'r hysbysiadau canslo hyn sydd wedi'u hanfon at gleifion ac yn sicrhau, lle mae gan gleifion apwyntiadau ar gyfer y cyflwr ofnadwy hwn, fod yr apwyntiadau hynny'n digwydd ac y rhoddir ystyriaeth briodol i gynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer cleifion dystonia, oherwydd, fel y dywedais, mae 3,500 o gleifion ledled Cymru yn dioddef o'r cyflwr hwn?