Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n addo bod yn un fywiog. Mae'n fater y mae bron bawb yn teimlo'n gryf eu bod yn iawn yn ei gylch, ac mae cymaint yn y fantol. Mae'r cynnig ger ein bron yn galw ar y lle hwn i ddatgan ei gefnogaeth ddigamsyniol i refferendwm cadarnhau. Do, rydym wedi galw am eglurder diamwys heb ei gymylu gan amgylchiadau posibl, oherwydd dyn a ŵyr, mae polisïau'r prif bleidiau yn San Steffan wedi bod braidd yn ddryslyd yn ddiweddar, wedi'u glynu at ei gilydd â thâp i guddio'r rhaniad dwfn yn eu rhengoedd eu hunain ar y mater tra chynhennus hwn. Rydym yn croesawu newid polisi Llywodraeth Cymru i gefnogi ail refferendwm, beth bynnag a ddaw. Dyma'r unig ffordd o ddatglymu cwlwm Brexit.
Rwyf wedi crybwyll fod Brexit yn gynhennus; wrth gwrs ei fod. Mae'n anodd, ac rwy'n deall pam fod y mater yn llawn o drafferth i lawer o gynrychiolwyr etholedig. Ond mae'n hollbwysig ein bod yn meddwl ac yn gwneud yr hyn sydd orau i'n hetholwyr, yn hytrach na'r hyn sy'n wleidyddol gyfleus. Rwy'n cydnabod hefyd pam y pleidleisiodd miloedd o fy etholwyr o blaid gadael, oherwydd y cyfle ymddangosiadol i adfer rheolaeth. Roedd y slogan hwnnw'n canu clychau, ond roedd yn un sinigaidd—yn sinigaidd am nad oedd yn wir. Mae'r gwrthwyneb wedi digwydd mewn gwirionedd, gyda digwyddiadau'n chwyrlïo allan o reolaeth pawb—gan gynnwys San Steffan. Addawodd y mantra camarweiniol hwnnw ddewis arall yn lle'r sefyllfa druenus y mae gormod o fy etholwyr ynddi, ond ni fydd y cyfoeth a addawyd iddynt ar ochr bws byth yn eu cyrraedd; fe wyddom hynny.
Nid bai'r UE yw'r problemau y mae pobl yn eu hwynebu, deilliant o weithredoedd Llywodraeth San Steffan, esgeulustra tuag at gymunedau a adawyd ar ôl ar y naill law, a pholisïau sy'n fwriadol greulon yn targedu unigolion agored i niwed ar y llall. Canlyniad y toriadau, nid y cyfandir, yw'r caledi y mae pobl yn ei wynebu. Mae llawer o sylwebyddion a gefnogai Brexit hyd yn oed wedi hen roi'r gorau i honni y bydd cymunedau tlotaf y DU yn elwa o Brexit; mae'r cyfan yn ymwneud yn awr â sofraniaeth, neu i fod yn fwy manwl, y camargraff o sofraniaeth. Ond ym mha wedd y mae sofraniaeth yn golygu colli rheolaeth ar ein GIG, rhywbeth y mae Donald Trump wedi dweud yn glir y bydd yn rhaid iddo fod ar y bwrdd yn gyfnewid am gytundeb masnach?
Rydym yn wynebu dyfodol lle gallai arweinydd nesaf y blaid Dorïaidd fod yn barod iawn i daflu ein heconomi—bywoliaeth fy etholwyr—o dan y bws gwaradwyddus hwnnw er mwyn bod yn Brif Weinidog. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw bod tuedd lechwraidd ac ysgeler ymysg mwy a mwy o gefnogwyr Brexit, gan gynnwys y mwyafrif o'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, i ddweud bod dim bargen nid yn unig yn dderbyniol, nid yn unig, yn dwyllodrus, fod pobl wedi pleidleisio o'i blaid yn 2016, er na wnaethant hynny, ond hefyd na fyddai dim bargen mor ddrwg â hynny mewn gwirionedd. Mae'n gas gennyf feddwl y byddai Aelodau yma neu yn San Steffan yn honni na fyddai dim bargen yn golygu unrhyw beth heblaw trychineb ac amddifadedd i rai o fy etholwyr. Nid gêm mo hon. Nid cystadleuaeth i weld pwy sy'n ildio gyntaf. Bydd yn effeithio ar fywydau pobl. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant Llafur, ac ni fydd yn syndod i neb na fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau eraill.
Mae'r rheini a oedd o blaid gadael yr UE wedi cael un cyfle ar ôl y llall i wireddu'r canlyniad, ond pan ddaeth hi i'r pen, nid oedd ganddynt unrhyw beth i'w gynnig heblaw rhethreg wag, felly fe wnaethant ymddiswyddo yn lle hynny. Maent wedi cael eu cyfle ac maent wedi methu, gan ein gadael heb unrhyw ddewis ond ailedrych ar y penderfyniad gwreiddiol, ond y tro hwn gan wybod beth sydd yn y fantol, gan gynnwys ein GIG. Mae'n bell iawn o'r £350 miliwn yr wythnos a addawyd.
Lywydd, un o'r safbwyntiau 'newspeak' newydd mwyaf gofidus sy'n cael eu hailadrodd yn awr yw y byddai cael ail bleidlais yn annemocrataidd. Ni allaf ddirnad sut y gall unrhyw un honni bod rhoi pleidlais i'r bobl yn tanseilio democratiaeth. Mae'n groesddywediad. Gadewch i mi atgoffa Aelodau yn y Siambr hon: byddai ail bleidlais yn dal i roi dewis a bydd pobl yn rhydd i ymgyrchu dros y naill ochr neu'r llall.
Rwy'n dal i fod yn bryderus iawn ynghylch y modd y mae Brexit wedi gwenwyno dadleuon—gwleidyddion yn galw enwau, yn gweiddi ar eu heistedd, yn gwawdio. Rhennir cymdeithas hefyd ac ni fydd refferendwm ei hun yn ddigon i wella rhaniadau o'r fath. Rwy'n gwybod hynny. Bydd hynny'n galw am ymdrech fwy cynhwysol, trawsbleidiol ac ar draws y gymuned. Ond mae refferendwm yn gam angenrheidiol ar hyd y llwybr hwn, oherwydd mae pob senario arall sy'n ein hwynebu yn waeth.
Cyflawnodd canlyniad y refferendwm yn 2016 fuddugoliaeth gul i ymgyrch wallus, troseddol esgeulus o bosibl, a wnaeth addewidion na chânt byth mo'u gwireddu i'r bobl rwy'n eu cynrychioli. Yn waeth na hynny, roedd y bobl a wnaeth yr honiadau'n gwybod hyn. Nid oeddent yn malio, felly mae hi wedi dod i hyn. Mae'r Aelodau ar yr ochr arall i'r ddadl yn aml yn sôn am barchu democratiaeth. Wel, mae democratiaeth yn wastadol, nid moment benodol yw hi. Y peth mwyaf democrataidd yw rhoi llais terfynol i'r bobl; mae esgus fel arall yn gyfystyr â lluchio llwch i lygaid pawb.
Mae amser o hyd i gamu'n ôl o'r dibyn, i ddiogelu'r £245 miliwn y mae Cymru'n ei gael bob blwyddyn o fod yn yr UE, amser i amddiffyn ein diwydiannau, amser i ailgadarnhau hawliau gweithwyr, amser i ddilyn y llwybr sy'n cynnig y dyfodol gorau a disgleiriaf i Gymru a'n dinasyddion drwy ddewis aros yn yr UE. Nid yw'n rhy hwyr. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig ac i roi cyfle i bobl Cymru wneud y dewis hwnnw.