Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 5 Mehefin 2019.
Ie. Mae'n gyn-Aelod, wrth gwrs. Roeddwn yn sôn am Aelodau presennol.
Nawr, mae rhai—. Beth am ddilyn y rhesymeg eto: mae rhai Aelodau yn y Siambr hon yr hoffwn eu llongyfarch ar ddathlu 20 mlynedd o wasanaeth di-dor yn y Cynulliad Cenedlaethol, yr hwyaf o blith pawb ohonom yma, ond wrth gwrs, pan fyddwch yn adio gwasanaeth cyfun yr Aelodau Cynulliad eraill, mae'n hwy na'r rhai o'u blaenau. [Torri ar draws.] Dyma yw eich rhesymeg. Dyma yw eich rhesymeg. [Torri ar draws.] Iawn, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.