6. Dadl Plaid Cymru: Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:03, 5 Mehefin 2019

Y broblem sydd gyda fi, wrth gwrs, yw dyw hi ddim yn glir o gwbl beth oedd Brexit yn ei feddwl, pa fath o Brexit oedd pobl yn gallu ei ddisgwyl ar ôl y refferendwm, ac felly roedd yna vacuum, onid oedd? Ac yn ystod yr ymgyrch—ac yn sicr ers hynny—mae pob Brexiteer wedi rhyw fath o brojecto eu fersiwn nhw o Brexit ar y papur pleidleisio oedd pobl yn ei farcio yn y blychau pleidleisio—pob math o Brexits gwahanol—a phawb, wrth gwrs, yn hawlio wedyn mai eu Brexit nhw enillodd y dydd yn y refferendwm. Roeddwn i'n meddwl y dydd o'r blaen—faint o wahanol Brexits ŷn ni wedi clywed amdanyn nhw? Mae yna Brexit meddal, mae yna Brexit caled, mae yna Brexit gyda chytundeb, mae yna Brexit—[Torri ar draws.]