Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 5 Mehefin 2019.
Rwy'n cynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Caroline Jones. Felly, rydym wedi clywed gan Delyth mai canlyniad y toriadau nid y cyfandir oedd y refferendwm. Tybed a allai hwnnw fod yn ddatganiad bachog y gellid ei ddyfynnu ar ôl y ddadl, oherwydd ei bod wedi edrych ar ei dail te a'i bod yn gwybod sut y pleidleisiodd pobl ein rhanbarth, pam y bu iddynt bleidleisio. Mae'n gweld i mewn i'w meddyliau ac mae'n gwybod yn well na hwy—[Torri ar draws.]—beth sydd o fudd iddynt.