6. Dadl Plaid Cymru: Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:20, 5 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n amlwg i mi a'r hyn rwy'n ei ddeall o'r sefyllfa rydym ynddi heddiw yw bod ein gwleidyddiaeth wedi'i thagu'n llwyr, ac nid oes unrhyw arwydd y caiff hyn ei ddatrys. Mae'n annhebygol o newid o ganlyniad i'r ymgyrch etholiadol o fewn y Blaid Geidwadol. Mae'n annhebygol y caiff ei ddatrys drwy etholiad cyffredinol. Ni chredaf y dylem adael heb gytundeb. Byddai honno'n weithred eithriadol o aberth sy'n groes i natur yr hyn ydym, yn groes i'n hanes ac yn groes i'n diwylliant. Ni chredaf fod gennym ddewis arall ond ymestyn erthygl 50 i ganiatáu i refferendwm gael ei gynnal, i ganiatáu inni ddechrau'r broses o wella yn y wlad hon.  

Oherwydd pan edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yr hyn a welsom yw'r egwyddor o gydsyniad yn cael ei ddwyn oddi wrthym. Mae cydsyniad yn egwyddor bwysig mewn unrhyw ddemocratiaeth, ond ni all cydsyniad fod yn gydsyniad a orfodwyd neu'n gydsyniad sy'n seiliedig ar dwyll. Rhaid iddo gael ei roi'n rhydd a bod yn gydsyniad gwybodus. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelsom y bobl a ariannodd, ac a oedd y tu ôl i'r ymgyrch dros 'adael' yn wynebu un ymchwiliad ar ôl y llall. Rhoddwyd dirwyon, a gwyddom am waith pobl fel Cambridge Analytica, sydd wedi defnyddio data budr mewn ffordd sydd y tu hwnt i'r cyfreithiau sydd gennym ar hyn o bryd a thu hwnt i'r rheolyddion sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae'r cydsyniad a roddwyd dair blynedd yn ôl gan bobl y wlad hon yn rhywbeth a gafodd ei gam-drin gan y bobl a geisiodd y cydsyniad hwnnw. Drwy wneud hynny, maent yn tanseilio nid yn unig y refferendwm y maent hwy eu hunain yn credu y dylid anrhydeddu ei ganlyniad, ond maent hefyd yn tanseilio ein democratiaeth a'n sefydliadau democrataidd.

Mae ein sefydliadau democrataidd wedi dioddef mwy o gamdriniaeth nag y gallaf ei gofio yn ystod fy oes, ac rwyf wedi byw drwy'r 1980au, a oedd yn gyfnod digon cyffrous pe baech yn fyfyriwr ifanc asgell chwith. Ond gadewch imi ddweud hyn: pan fydd Nigel Farage yn disgrifio Parliament Square fel 'tiriogaeth y gelyn', beth ar y ddaear—beth ar y ddaear y mae hynny'n ei ddweud am rywun sy'n mynnu gweld dychweliad ein sofraniaeth mewn democratiaeth seneddol? A phan fydd papurau newydd cenedlaethol yn gallu disgrifio ein barnwriaeth fel 'gelynion y bobl', beth y mae hynny'n ei ddweud am gydnabod a pharchu ein democratiaeth yn y wlad hon? Yr hyn y mae'n ei ddweud wrthym yw nad yw'r bobl hynny'n parchu ein democratiaeth. Nid ydynt yn malio am ein democratiaeth. Maent yn malio ynglŷn â thanseilio'r union sefydliadau sy'n cynnal ein gwareiddiad yn y gymdeithas hon. Mae'n ymgyrch wleidyddol i danseilio'r pethau sy'n bwysig inni.

Dechreuodd ymddatod, wrth gwrs, gyda'r Arlywydd Trump yn dweud y gwir—cyn i rywun ddweud wrtho am beidio—yn gynharach yr wythnos hon. Dros y blynyddoedd diwethaf, gallasom weld mai ewyllys y bobl yw peidio â symud ymlaen mewn ffordd a ddisgrifiwyd rai blynyddoedd yn ôl. Rwy'n gobeithio y gallwn ailosod ein gwleidyddiaeth ac y gallwn gynnal ein dadleuon cyhoeddus yn y wlad hon heb yr anoddefgarwch, y rhagfarn, a hyd yn oed y trais a'r bygythiadau o drais a welsom, yr arian amheus, yr ymyrraeth dramor. Mae'r ymgais i dorri ein democratiaeth a'n sefydliadau democrataidd yn rhywbeth sy'n rhaid inni i gyd sefyll gyda'n gilydd i sicrhau, gobeithio, y byddwn, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn gallu ennill dadl, nid dros refferendwm yn unig, a fydd, gobeithio, yn rhoi canlyniad y gallwn greu seiliau cadarn arno ar gyfer cymdeithas gyfiawn—cymdeithas sy'n gymdeithas oddefgar, cymdeithas yr oedd pobl yn ymladd dros ei gwarchod 75 mlynedd yn ôl.

A phan gofiwn am aberth y 1940au, gadewch i ni hefyd gofio beth wnaeth y Frenhines ein hatgoffa ohono'n gynharach yr wythnos hon: fod y 1940au wedi arwain at fwy o amlochroldeb, nid llai. Arweiniodd at greu sefydliadau Bretton Woods. Arweiniodd at greu'r Cenhedloedd Unedig. Arweiniodd yn y pen draw at greu'r Undeb Ewropeaidd. Arweiniodd at yr holl sefydliadau ar gyfer trefn ryngwladol sy'n ceisio cadw heddwch a chynyddu ffyniant a chyfiawnder i'r holl bobl hynny. Gadewch inni wneud mwy nag ennill pleidlais mewn ail refferendwm, gadewch inni ennill dadl o blaid math gwahanol iawn o gymdeithas yn y dyfodol. Diolch.